91热爆

Ap锚l adolygiad barnwrol canolfan ganser yn methu

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o'r ganolfan ganser newyddFfynhonnell y llun, John Cooper Architects
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y cynllun i godi'r ganolfan newydd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth

Mae cais i ail-ystyried penderfyniad yn erbyn cynnal adolygiad barnwrol dros godi canolfan ganser newydd ar dir glas yng Nghaerdydd wedi cael ei wrthod.

Roedd aelod o gr诺p ymgyrchu wedi gofyn i farnwr yr Uchel Lys adolygu penderfyniad ym mis Medi i beidio 芒 chaniat谩u'r ap锚l yngl欧n 芒 chynllun Canolfan Ganser newydd Felindre yn ardal Yr Eglwys Newydd.

Yn y gwrandawiad hwnnw, fe orchmynnodd y llys bod rhaid i Catherine Lewis dalu dros 拢46,000 mewn costau cyfreithiol.

Honnodd gr诺p Achub y Dolydd Gogleddol bod yna sawl sail i herio'r penderfyniad, gan gynnwys problemau o ran yr effaith amgylcheddol a dadleuon o ran model clinigol y cynllun.

Ond daeth Mr Ustus Eyre i'r casgliad ddydd Mercher ei fod yn cytuno gyda phenderfyniad y barnwr gwreiddiol na fyddai'r adolygiad barnwrol yn llwyddo ac felly nad oedd am ei ganiat谩u.

"Y prawf ydy a oes gan yr adolygiad barnwrol obaith gwirioneddol o lwyddo," meddai wrth oruchwylio'r gwrandawiad yng Nghaerdydd.

Dywedodd ei fod yn sicr bod Bwrdd Iechyd Felindre wedi gwneud y penderfyniad cywir ar sail y wybodaeth oedd gyda nhw ar y pryd.

Ychwanegodd nad oedd o'r farn y byddai'n bosib parhau 芒 chynlluniau i godi'r uned newydd ar dir yr Ysbyty Athrofaol oherwydd yr amserlen ansicr yngl欧n 芒 phryd fyddai'r safle hwnnw yn cael ei ailddatblygu.

Buasai gwneud hynny, meddai, yn gohirio'r gwaith pan fo angen clir am uned ganser newydd ar frys.

Ffynhonnell y llun, Catherine Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Catherine Lewis yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried opsiynau eraill

Roedd Ms Lewis, a gafodd triniaeth at ganser y fron yn Ysbyty Felindre, yn dadlau bod y llywodraeth wedi methu ag ystyried codi'r ganolfan newydd ar dir Ysbyty Athrofaol Cymru, ac y byddai'r cynllun yn torri dyletswydd cyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy godi adeilad yn Yr Eglwys Newydd.

Roedd yr ymgyrch wedi codi dros 拢23,000 trwy dudalen ariannu torfol er mwyn ceisio am adolygiad barnwrol.

Mae llythyr a gafodd ei ddatgelu'n answyddogol yn dweud bod bwrdd ymgynghorol o arbenigwry canser wedi rhybuddio yn erbyn codi'r ganolfan newydd ar y safle.

Roedd y llythyr yn dadlau y byddai safle ar wah芒n yn gwaethygu pethau i gleifion o'i gymharu 芒 chodi canolfan newydd ar bwys ysbyty cyffredinol mawr fel yr Ysbyty Athrofaol.

Dywedodd y barnwr bod ymchwiliad mawr i'r cynlluniau'n awgrymu y gallai codi'r adeilad wrth yr Ysbyty Athrofaol achosi sawl blwyddyn o oedi pan fo angen brys am ysbyty newydd.

Fe wnaeth hefyd wrthod y ddadl bod Llywodraeth Cymru'n torri ei dyletswydd i warchod, cynnal a gwella bioamrywiaeth.

Ffynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr ysbyty newydd yn agos at safle ysbyty presennol Felindre

Dywedodd Ms Lewis bod y costau y cafodd ei gorchymyn i'w talu ym mis Medi yn ormodol ac fe honnodd ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei bwlio gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Ustus Eyre iddo gael ei "daro gan y ffaith" fod costau Bwrdd Iechyd Felindre "fwy na theirgwaith" costau Llywodraeth Cymru ac yn "ffigwr anghymesur o uchel."

Ond fe wrthododd 芒 gwneud dyfarniad ar gostau ddydd Mercher ac fe fydd yn cyhoeddi dyfarniad ysgrifenedig maes o law.

Bydd y ganolfan newydd yn darparu triniaeth arbenigol ac yn cynnwys adnoddau dysgu, ymchwil a datblygu.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym Mawrth 2023 ac i'r ganolfan agor yn haf 2025.

Roedd yna brotestiadau ar y safle ym mis Hydref wnaeth atal gwaith yno, ac fe gafodd dau berson eu harestio.

Pynciau cysylltiedig