Ymgyrchwyr yn atal gwaith ar Ganolfan Ganser Felindre
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd wedi clymu ei hun i gi芒t er mwyn atal mynediad i'r man lle fydd canolfan ganser newydd yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd.
Bu gr诺p o tua 20 o ymgyrchwyr - sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser Felindre - yn ceisio atal mynediad i'r safle yn Yr Eglwys Newydd.
Mae'r mwyafrif wedi gwasgaru, ond fe gafodd dwy ddynes eu harestio gan Heddlu'r De ar amheuaeth o dresmasu difrifol.
Dywedodd un ymgyrchwraig - oedd a chlo beic o gwmpas ei gwddf - ei bod hi wedi bod yno ers ben bore Mawrth.
Fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi caniat芒d cynllunio i'r adeilad yn 2017, a'r disgwyl yw y bydd y ganolfan newydd yn agor ei drysau yn 2025.
Y gobaith yw y bydd yn darparu triniaeth arbenigol ac adnoddau ar gyfer dysgu, ymchwil a datblygu.
Ond mae'r cynlluniau wedi ennyn cryn wrthwynebiad gyda rhai protestwyr yn anfodlon bod y gwaith adeiladu yn digwydd ar ddarn o dir glas agored.
'Addewidion gwag'
Yn 么l Pip, un o'r ymgyrchwyr y tu allan i'r safle, maen nhw'n gobeithio atal y gwaith am gyn hired ac sy'n bosib heddiw.
"Dwi'n protestio gan ein bod ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, a dwi wedi cael digon o wleidyddion yn gwneud addewidion gwag, ac yn methu'n llwyr a gweithredu."
Wedi iddyn nhw arestio dwy ddynes, dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad eu bod yn cydnabod yr hawl i brotestio democrataidd tra'n lleihau tramgwyddo'r cyhoedd.
"Cafodd menyw 36 oed o Laneirwg a menyw 69 oed o'r Mynydd Bychan eu harestio ar amheuaeth o dresmasu difrifol.
"Roedd y brotest yn heddychlon ar y cyfan, ac fe wnaeth y protestwyr wasgaru heb ddigwyddiad pellach."
'Pryderon dwfn'
Dywedodd Sian, un arall o'r ymgyrchwyr bod ganddyn nhw bryderon dwfn am effaith amgylcheddol y prosiect.
"Ry'n ni yng nghanol argyfwng natur a hinsawdd, ac ry'n ni ar fin colli un o ardaloedd gwyrdd, gwyllt olaf Caerdydd," meddai.
"Mae 'na wrthwynebiadau i'r ceisiadau cynllunio yn dal yn sefyll - dy'n ni ddim wedi cael atebion i'r rheini.
"Mae cymaint o gwestiynau'n dal yn agored yngl欧n 芒'r cynllun, ac mae e wir yn bwysig bo' ni'n datrys hyn cyn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun."
Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser Felindre bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd "yn canolbwyntio ar glirio rhywfaint o lystyfiant er mwyn gallu cwblhau'r gwaith o fapio'r safle dros yr wythnosau nesa."
"Dim ond coed sydd eisoes wedi disgyn oherwydd y gwynt fydd yn cael eu clirio o'r safle - yn unol 芒'r hyn gafodd ei gytuno ar y cyd a Chyngor Caerdydd," meddai.
Mae Felindre wedi dweud yn y gorffennol eu bod wedi eu hymrwymo i ddarparu gwasanaethau canser o'r safon uchaf i bobl De Ddwyrain Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020