Cymru yn croesawu Belarws ar achlysur canfed cap Gareth Bale

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw Gareth Bale heb chwarae mewn gêm gystadleuol ers cynrychioli ei wlad dros ddeufis yn ôl

Bydd Cymru yn herio Belarws yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn gan wybod y byddai buddugoliaeth yn gam arall at lwybr mwy ffafriol i Gwpan y Byd 2022.

Mae disgwyl dipyn o achlysur, gyda chapten a phrif sgoriwr Cymru, Gareth Bale, yn debygol o ennill ei ganfed cap rhyngwladol.

Mae Cymru eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd Qatar 2022.

Ond er mwyn cael y cyfle gorau bydd Cymru yn gobeithio gorffen o leiaf yn ail yn y grŵp cyn y gemau ail gyfle fis Mawrth.

Gareth Bale fydd yr ail chwaraewr i ennill 100 cap i dîm y dynion, ar ôl Chris Gunter, os y bydd yn gwneud ymddangosiad nos Sadwrn.

Roedd Bale i fod i gyrraedd y garreg filltir fis diwethaf yn erbyn y Weriniaeth Siec ac Estonia, ond fe rwygodd linyn y gar.

Amser a ddengys os mai ar y fainc y bydd Bale yn dechrau'r gêm nos Sadwrn, neu os y bydd yn gwneud ymddangosiad o gwbl.

Nid yw Bale wedi chwarae ers i Gymru gael gêm gyfartal gartref yn erbyn Estonia ar 8 Medi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Bale wedi sgorio 36 gôl ryngwladol ers ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mai 2006

Dim ond am chwe munud mae Aaron Ramsey wedi chwarae i'w glwb ers y gemau rhyngwladol diwethaf hefyd.

Mae'n edrych yn gynyddol debygol nad ydy Ramsey yn rhan o gynlluniau Juventus ond mae hefyd wedi methu gemau oherwydd "blinder cyhyrau".

Mae'n dipyn o gur pen i'r rheolwr Robert Page wrth iddo orfod penderfynu a ddylid gamblo ar Bale a Ramsey - dau o sêr y tîm - gyda dwy gêm mewn pedwar diwrnod.

Aeth Ramsey i mewn i gemau rhagbrofol fis diwethaf yn fyr ar amser chwarae, gan serennu a sgorio yn y gêm gyntaf yn erbyn y Weriniaeth Siec.

Ond roedd yn llawer llai effeithiol yn yr ail oddi cartref i Estonia dridiau yn ddiweddarach.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Fel y disgwyl, bydd Gwlad Belg yn sicrhau eu lle ar frig y grŵp - ac yn cipio lle awtomatig yng Nghwpan y Byd - trwy guro Estonia gartref ddydd Sadwrn.

Bydd gêm gyfartal bron yn sicr yn ddigon hefyd o ystyried eu mantais gwahaniaeth goliau enfawr dros Gymru.

Mae Cymru angen pedwar pwynt o'u dwy gêm olaf i sicrhau eu bod yn gorffen yn ail uwchben y Sieciaid, ddylai sicrhau gêm haws, gartref yn y gemau ail gyfle.

Pa Moore anodd heb Kieffer?

Fe sgoriodd Kieffer Moore y gôl fuddugol yn Estonia fis diwethaf, cyn cael cerdyn melyn - ei ail o'r ymgyrch ragbrofol - sy'n golygu na fydd ar gael i herio Belarws.

Mae absenoldeb Moore yn achosi cur pen i Page gan nad oes gan Gymru unrhyw un all gymharu â'r ymosodwr 6 troedfedd 5 modfedd.

Yr opsiynau eraill ydy chwaraewyr sydd efallai yn fwy chwim, fel Tyler Roberts neu Mark Harris.

Mae Cymru wedi ennill pump o'u chwe gêm yn erbyn Belarws.

Roedd yr ornest ddiwethaf ym mis Medi pan sicrhaodd ail hat-tric rhyngwladol Bale fuddugoliaeth o 3-2.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Aaron Ramsey wedi ei enwi yn y garfan er nad yw wedi bod yn chwarae i Juventus yn ddiweddar

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Yn dechnegol, fe all Cymru ennill y grŵp ond mae hynny yn ddibynnol ar Wlad Belg, sydd ar y brig ar hyn o bryd, yn colli eu gemau yn erbyn Estonia a Chymru.

Petai Cymru yn curo Belarws a cholli i Wlad Belg, a'r Weriniaeth Siec yn curo Estonia, fe fyddai'r ail safle yn ddibynnol ar wahaniaeth goliau, gyda'r Weriniaeth Siec ddwy gôl yn well na Chymru ar hyn o bryd.

Dydy Cymru heb chwarae ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd ers 1958 - pan wnaethon nhw gyrraedd yno drwy'r gemau ail gyfle.