Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022: Cymru 0-0 Estonia
- Cyhoeddwyd
Nid yw gobeithion Cymru o orffen ar frig eu gr诺p rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn edrych yn addawol ar 么l g锚m gyfartal, ddi-sg么r yn erbyn Estonia nos Fercher.
Er gwaethaf awyrgylch bywiog Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddechrau'r g锚m, Estonia oedd y t卯m ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf wrth i Mattias Kait daro'r traws.
Cafodd Cymru sawl cyfle i sgorio ar 么l yr egwyl, ond cafodd ymdrechion Gareth Bale a Tyler Roberts eu rhwystro gan arbediadau da gan g么l-geidwad ifanc Estonia, Karl Hein.
Mae Cymru bellach naw pwynt i ffwrdd o arweinwyr y gr诺p, Gwlad Belg.
Er bod y Cymry wedi chwarae dwy g锚m yn llai, mae'n rhaid iddyn nhw nawr ennill yr holl gemau sy'n weddill - yn cynnwys g锚m gartref yn erbyn Gwlad Belg - er mwyn gorffen ar frig y gr诺p, gan obeithio y bydd eu gwrthwynebwyr yn colli pwyntiau cyn hynny hefyd.
Mae'r gemau ail gyfle bellach yn edrych fel llwybr mwyaf realistig Cymru i'w Cwpan y Byd cyntaf ers 1958.
Mae g锚m gyfartal yn erbyn Estonia yn cadw Cymru yn y trydydd safle yng Ngr诺p E, y tu 么l i'r Weriniaeth Tsiec sy'n ail ar wahaniaeth goliau, ond mae Cymru wedi chwarae un g锚m yn llai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021