Cwpan y Byd 2022: Belarws 2-3 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd tair gôl Gareth Bale fuddugoliaeth i Gymru yn erbyn Belarws ddydd Sul yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn Kazan, Rwsia.
Cafodd ysbryd y Cymry ei godi yn y munudau cyntaf a hynny wedi i Bale sgorio trwy gic o'r smotyn.
Ond wedi 29 munud a chamgymeriadau amddiffyn gan Gymru roedd yna gic gosb i'r tîm cartref a dyma Vitali Lisakovich yn unioni'r sgôr o ddeuddeg llath.
Funud yn ddiweddarach roedd Belarws ar y blaen wedi i Pavel Sedko sgorio'n hawdd.
Y sgôr ar hanner amser oedd Belarws 2, Cymru 1.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd yna fwy o ysbryd yn chwarae Cymru ar ddechrau'r ail hanner gyda chroesiad gwych gan Rubin Colwill ac ergyd dda gan Brennan Johnson i gyfeiriad y gôl.
Ond ofer fu'r ymdrechion a bu arhosiad y ddau ddim yn hir ar y cae wrth i Robert Page roi cyfle i ddau eilydd - Mark Harris a Jonny Williams.
Wedi 69 munud fe unionodd Cymru'r sgôr wrth i Bale sgorio o'r smotyn unwaith eto - y tro hwn ar ôl trosedd yn erbyn Ben Davies yn y cwrt cosbi.
Roedd yna ymdrechion eraill - gan Bale, a gan Belarws - ar y gôl cyn y chwiban olaf ond fe ddaeth y fuddugoliaeth yn yr amser ychwanegol gyda Bale yn sicrhau hat-tric.
Y sgôr terfynol - Belarws 2, Cymru 3 a'r cochion yn bachu tri phwynt, er bod 13 o aelodau'r garfan yn absennol oherwydd anafiadau, rheolau Covid-19 neu drafferthion fisa.
Mae tîm Robert Page wedi ennill dwy gêm a cholli un hyd yma yng Ngrŵp E - dim ond un wlad sy'n cael mynd drwodd yn awtomatig i'r rowndiau terfynol yn Qutar yn 2022.
Bydd gêm ragbrofol nesaf tîm Cymru nos Fercher yn erbyn Estonia yng Nghaerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021