91热爆

Cwyn dros effaith cefnogaeth filwrol ar staff ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
Milwyr yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 100 o swyddogion milwrol wedi bod yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ers mis Hydref

Mae undeb wedi cwyno'n ffurfiol i reolwyr gwasanaeth ambiwlans Cymru gan ddweud bod aelodau'n cael eu bygwth 芒 chamau disgyblaeth wrth fynegi pryderon sydd wedi codi wrth gydweithio ag aelodau'r lluoedd arfog.

Mewn llythyrau at brif weithredwr y gwasanaeth, Jason Killens a'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mae undeb y GMB yn rhybuddio bod parafeddygon a milwyr dan straen yn sgil y trefniant mewn ymateb i'r pwysau ar GIG Cymru.

Yn y llythyrau, dywed yr undeb bod "dim dewis ond ystyried gweithredu diwydiannol" os nad oes camau brys i osgoi "storm berffaith... wnaiff arwain at gwymp llwyr y gwasanaeth".

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn "ymwybodol o'r pryderon" ond nad oedden nhw'n "barod i weld nifer sylweddol o gleifion yn profi arosiadau pryderus yn y gymuned oherwydd diffyg adnoddau".

Dywed Llywodraeth Cymru mai penderfyniadau i'r ymddiriedolaeth ambiwlans yw materion gweithredol.

Dywed y llythyrau bod yr undeb yn pryderu'n fawr dros adroddiadau bod aelodau'n cael "eu bygwth gyda chwestiynau ynghylch eu gallu i wneud eu gwaith, neu waharddiad a chamau disgyblu os maen nhw'n pryderu dros weithio gyda swyddogion milwrol heb eu hyfforddi".

Yn 么l yr undeb, "ychydig iawn o gefnogaeth" y mae'n bosib i'r swyddogion milwrol gynnig mewn gwirionedd, gan nad ydyn nhw'n barafeddygon nac yn gallu gyrru ambiwlans wrth ymateb i achos brys.

O ganlyniad, medd y GMB, mae aelodau'n gorfod "cadw golwg ar y staff milwrol sy'n gweithio gyda nhw, a rhoi cyfarwyddiadau beth sydd angen ei wneud" tra'n asesu a thrin cleifion a delio gyda pherthnasau ar yr un pryd.

Dywedodd Nathan Holman o'r GMB bod aelodau'r fyddin "heb unrhyw sgiliau clinigol o gwbl" yn cael eu gyrru i weithio gyda pharafeddygon.

"Mae rhai yn 17, 18 oed ac yn dweud bod nhw erioed wedi bod i farwolaeth o'r blaen, erioed wedi gwneud hyn o'r blaen a wir ddim isio bod yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw'r trefniant ddim yn datrys y gwir broblem, medd y GMB, sef ambiwlansys yn gaeth am gyfnodau hir tu allan i ysbytai

Mae rhai gweithwyr milwrol wedi dweud wrth barafeddygon "nad ydyn nhw'n gyfforddus yn delio gydag achosion brys a'u bod erioed wedi gorfod delio gydag argyfyngau meddygol fel marwolaethau o'r blaen", medd y GMB.

"Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar barafeddygon sydd eisoes dan straen, ac hefyd yn rhoi'r staff milwrol mewn sefyllfaoedd all eu niweidio, gyda'r sgil-effaith i beryglu'r cyhoedd.

"Mae aelodau'r GMB wedi dweud wrthym eu bod ar ddeall y bydden nhw'n cael eu cyfeirio i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) os maen nhw'n gwrthod gweithio gyda'r lluoedd arfog, eto mae llawer yn teimlo tra'n gweithio gyda'r lluoedd arfog bod mwy o risg iddyn nhw gael eu cyfeirio at yr HCPC am nad oes modd gwneud eu gwaith yn ddiogel."

'Peryglon i'r cyhoedd'

Yn y llythyrau, dywed yr undeb bod yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn groes i ddatganiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a'r Fyddin nad oedd disgwyl i'r lluoedd arfog ymateb i alwadau brys.

O ganlyniad, meddai, mae aelodau'n teimlo bod hwythau a'r cyhoedd wedi cael eu "camarwain" ac yn codi pryderon "ynghylch y peryglon i'r cyhoedd, ynghyd 芒'r sefyllfaoedd hynod anodd y maent yn cael eu hunain ynddynt".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ambiwlansys y tu allan i Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbr芒n

Dywed yr undeb bod unrhyw gefnogaeth yn cael ei werthfawrogi cyn belled nad yw'n gwaethygu'r sefyllfa trwy gynyddu pwysau ar weithlu sydd eisoes dan y don".

Mae aelodau, meddai, yn disgrifio'r sefyllfa "fel plaster gan nad yw'n gwneud dim i ddatrys y gwir broblem sef methiant i drosglwyddo'r cleifion maent yn eu cludo i'r ysbyty, i mewn i'r ysbyty ei hun".

Y "realiti", meddai, yw mwy o ambiwlansys yn ciwio tu allan i ysbytai, a llai yn rhydd i ymateb i alwadau eraill.

Honiadau o 'fwlio'

Mae'r undeb yn honni bod aelodau "yn ddyddiol, yn codi pryderon o gael eu bwlio a'u gorfodi i adael eu partner hyfforddedig arferol er mwyn paru gyda swyddog milwrol heb ei hyfforddi.

"Mae hyn yn cynyddu lefelau straen sydd eisoes yn uchel, ac fel y gwyddoch, mae lefelau salwch o fewn y gwasanaeth ambiwlans eisoes dros 11%.

"Mae llawer o ein haelodau wedi rhoi gwybod mai'r rheswm uniongyrchol dros eu salwch yw cael eu gorfodi i weithio gyda phobl ddihyfforddiant a digymhwyster, sydd wedi effeithio ar eu cwsg oherwydd pwysau uwch.

"Credwn bod y sefyllfa'r storm berffaith wnaiff arwain, oni bai am weithredu cyflym, at gwymp llwyr y gwasanaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r GMB yn gofyn wrth Eluned Morgan i ymchwilio pam bod rheolwyr y gwasanaeth ambiwlans yn disgwyl i staff y lluoedd arfog fod yn rhan o'r ymateb i alwadau brys, os nad dyna'r bwriad wrth ofyn am gefnogaeth filwrol.

Mae'n dweud "nad oes dewis ond ystyried gweithredu diwydiannol" er mwyn gwarchod enw da aelodau.

'Ymwybodol o bryderon'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae materion gweithredol yn benderfyniadau i'r Ymddiriedolaeth i'w cymryd ac rydym yn ymwybodol bod yr Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda staff a chynrychiolwyr staff i wrando ar bryderon a'u datrys mewn partneriaeth ar lefel gyfundrefnol."

Jason Killens yw prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a dywedodd: "Rydym yn ymwybodol o bryderon gan gydweithwyr undebau llafur ar ran eu haelodau am weithio gyda'r lluoedd arfog ac yn eu hystyried.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i gydweithio i ddeall sut y gallwn ni ateb y pryderon a'u lliniaru.

"Er ein bod wedi gofyn am esiamplau o staff sy'n teimlo dan bwysau i weithio gyda'r lluoedd, nid ydym wedi gweld tystiiolaeth o broblem systemig ond rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae staff yn gweithio'n bositif gyda chydweithwyr milwrol.

"Rydym yn cydnabod pryderon rhai cydweithwyr am briodoldeb cefnogaeth filwrol ond, o ystyried lefelau uchel o absenoldeb, mwy o alw nag erioed o'r blaen am wasanaeth ac arosiadau hirach mewn ysytai, mae Bwrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi penderfynu nad ydyn nhw'n barod i weld nifer sylweddol o gleifion yn profi arosiadau pryderus yn y gymuned oherwydd diffyg adnoddau."

Pynciau cysylltiedig