Y fyddin i yrru ambiwlansys yn sgil pwysau ar GIG Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon milwrol wedi cael eu galw gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i'w helpu i ddelio 芒'r pandemig coronafeirws.
Bydd mwy na 90 o filwyr yn gyrru ambiwlansys o ddydd Mercher mewn ymgais i leddfu pwysau ar y gwasanaeth wrth i achosion barhau i godi.
Dyma fydd yr eildro iddyn nhw helpu yn ystod y pandemig.
Mae'r fyddin hefyd wedi helpu'r GIG yng Nghymru trwy ddosbarthu PPE ac adeiladu ysbyty dros dro yng Nghaerdydd.
Byddan nhw hefyd yn helpu i gyflwyno'r brechlyn.
Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens fod "pwysau eithafol" wedi bod ar y gwasanaeth yn yr wythnosau diwethaf.
Ychwanegodd mai'r gaeaf "yw ein cyfnod prysuraf" ac y bwriad ydy eu "rhoi yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru".
"Rydyn ni'n falch ac yn ddiolchgar unwaith eto i fod yn gweithio ochr yn ochr 芒'r fyddin yn yr ymdrech ar y cyd yn erbyn Covid-19, ac rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr yn estyn yr un croeso cynnes ag y gwnaethon nhw'r tro cyntaf."
Mae eu cefnogaeth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhan o'r trefniant Cymorth Milwrol i'r Awdurdodau Sifil (Maca).
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, fod y cymorth yn "groesawgar ac yn galonogol".
Ychwanegodd Gweinidog y Lluoedd Arfog, James Heappey: "Rhaid i'r Deyrnas Unedig gyfan dynnu at ei gilydd os ydym am oresgyn coronafeirws a mynd yn 么l at y ffordd o fyw rydyn ni'n ei hadnabod a'i gwerthfawrogi.
"Bydd ein Lluoedd Arfog yn gwneud hyn eto yng Nghymru trwy ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru am yr eildro eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020