Pedwerydd padlfyrddiwr wedi marw ac arestio dynes
- Cyhoeddwyd
Mae pedwerydd padlfyrddiwr wedi marw a dynes wedi cael ei harestio wedi digwyddiad ar Afon Cleddau Wen ddydd Sadwrn, 30 Hydref.
Bu farw Andrea Powell, 41, yn yr ysbyty - eisoes nodwyd bod Nicola Wheatley, 40, o Bontarddulais, Paul O'Dwyer o Sandfields, Port Talbot a Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful wedi marw yn y digwyddiad yn Hwlffordd.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod dynes o ardal de Cymru wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Fore Sadwrn fe wnaeth torf fawr o bobl ymgasglu yn Aberafan wrth i'r clwb syrffio lleol roi teyrnged i Mr O'Dwyer.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 09:00 ar 30 Hydref wedi i gr诺p o naw o bobl fynd i drafferthion tra'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen.
Cafodd Ms Powell o ardal Pen-y-bont ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg ac fe gadarnhaodd yr heddlu fore Sadwrn ei bod wedi marw.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Ry'n yn meddwl am y teulu ac eraill sydd wedi bod ynghlwm 芒'r digwyddiad erchyll hwn."
Cafodd pump o bobl eraill eu tynnu allan o'r d诺r gan y gwasanaethau brys - doedden nhw ddim wedi cael eu hanafu.
'Person arbennig'
Gan siarad yn y digwyddiad yn Aberafan fore Sadwrn dywedodd Matthew Tamlin, cadeirydd y clwb syrffio bod cynnal digwyddiad o'r fath ond yn digwydd i bobl arbennig.
"Roedd Paul O'Dwyer yn berson arbennig ac yn ffrind arbennig i bawb. Roedd e wastad yn gwneud pethau i bobl eraill.
"I'r gymuned ac i'w deulu mae'n bwysig ein bod yn sefyll yma heddiw gyda'n gilydd - er mwyn taflu ychydig o oleuni ar adeg dywyll iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2021