91热爆

Dynes, 41, dal yn yr ysbyty wedi digwyddiad padlfyrddio

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr achub ar bwys yr afonFfynhonnell y llun, Martin Cavaney/Athena
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 09:00 fore Sadwrn 30 Hydref

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod dynes 41 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn Hwlffordd ble bu farw tri pherson wrth badlfyrddio.

Roedd Morgan Rogers, 24, Nicola Wheatley, 40, a Paul O'Dwyer, 42, yn rhan o gr诺p o naw o bobl a aeth i drafferthion tra'n padlfyrddio ar Afon Cleddau Wen ar 30 Hydref.

Ar y pryd fe gadarnhaodd yr awdurdodau fod menyw arall wedi ei hanafu'n ddifrifol, tra bod pump o bobl eraill wedi eu tynnu allan o'r afon gan y gwasanaethau brys yn ddi-anaf.

Dywedodd yr heddlu fod y ddynes yn parhau i fod yn yr ysbyty, ac nad yw ei chyflwr wedi newid hyd yma.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Morgan Rogers, Nicola Wheatley, a Paul O'Dwyer yn y digwyddiad

Yn dilyn y digwyddiad cafodd teyrngedau eu rhoi i Ms Rogers o Gefn Coed ym Merthyr Tudful, Mr O'Dwyer o Draethmelyn, Port Talbot, a Ms Wheatley o Bontarddulais.

Ar ddiwrnod y digwyddiad roedden nhw'n rhan o gr诺p oedd yn dod o South Wales Paddle Boarders a Salty Dog Co, cwmni wedi'i leoli ym Mhort Talbot.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau bod swyddog heddlu yn un o'r bobl fu'n rhan o'r ddamwain.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi cadarnhau eu bod yn cynnal "asesiad cychwynnol" o'r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu hanfon i'r digwyddiad ger Stryd y Cei am tua 09:00 ar 30 Hydref.

Dywedodd yr heddlu fod yr afon yn llifo'n uchel ac yn gyflym adeg y digwyddiad, ar 么l glaw trwm.

Cafodd nifer o rybuddion am dywydd garw eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd y penwythnos diwethaf.

Pynciau cysylltiedig