Galwad i ddiogelu hen adeiladau pwysig cynghorau sir
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai mwy gael ei wneud i ddiogelu rhai o adeiladau pwysig Cymru sydd yn eiddo i awdurdodau lleol.
Dyna'r farn yn Nhregaron ar 么l i hen ysgol uwchradd y dref gael ei gwerthu i ddatblygwr lleol.
Yn y dref, mae siom bod rhai o adeiladau mwyaf eiconig a hanesyddol yr ardal yn cael eu dymchwel.
Mae CADW yn dweud eu bod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i ddiogelu adeiladau gan ddefnyddio deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol.
'Colled i ardal eang'
Fe gafodd Ysgol Uwchradd Tregaron ei hadeiladu yn 1897, ac mae'n rhan annatod o gymeriad Tregaron.
"Nid yn unig mae hyn yn golled i Dregaron ond i ardal fwy eang hefyd," meddai Cyril Evans sy'n gadeirydd ar Gymdeithas Hanes Tregaron a'r Cylch.
"Mae cenedlaethau o fyfyrwyr wedi bod yn mynychu'r ysgol, pob un ag atgofion melys o'u cyfnod yma.
"Mae adeiladau fel hyn yn diflannu ledled Cymru ac mae'n holl bwysig bod y cynghorau lleol a'r llywodraeth yn rhoi arian i mewn i'r pot er mwyn ail-wneud yr adeiladau yma a'u diogelu nhw ar gyfer y dyfodol oherwydd unwaith maen nhw wedi diflannu mae'r hanes wedi mynd.
"Mae wastad arian i rai pethau, o ble daeth yr arian i roi codiad cyflog i brif weithredwr y sir? Dyna'r cwestiwn, ai cydwybod y cynghorwyr na'th bleidleisio o blaid y codiad cyflog hwnnw."
Fe gafodd nifer o bobl ddylanwadol eu haddysg yn yr adeilad gan gynnwys George Noakes, cyn archesgob Cymru, a llenorion dylanwadol fel Kitchener Davies, Ambrose Bebb, WJ Gruffydd [Elerydd] a Cassie Davies.
Hen dad-cu David Bennett, Dai Lloyd Jenkins, oedd prifathro cyntaf Ysgol Uwchradd Tregaron a dywedodd y bydd yn "drist iawn gweld yr adeilad yn cael ei ddymchwel, achos mae hwn yn un o adeiladau eiconig Tregaron.
"Gallem ni fod yn edrych mwy ar ddefnyddio adeiladau fel hyn fel y maen nhw ac addasu ar gyfer defnydd newydd. Dyw e ddim yn digwydd bob tro ond mae angen gwneud mwy."
Bu hen ysgol gynradd Tregaron ar werth am gyfnod eleni hefyd, ond mae bellach wedi ei thynnu oddi ar y farchnad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cadw: "Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i ddiogelu adeiladau o ddiddordeb pensaern茂ol neu hanesyddol arbennig drwy restru, gan ddefnyddio deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol.
"Mae dros 30,000 o adeiladau o bwysigrwydd cenedlaethol wedi'u rhestru yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn berchen i'r awdurdodau lleol."
'Dim arian'
Rowland Rees Evans, cadeirydd Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau Ceredigion, oedd yn gyfrifol am werthu'r adeilad am oddeutu 拢160,000.
"Roedd pobl yn dechrau cwyno yngl欧n 芒 chyflwr yr adeilad," meddai.
"Mae cyfrifoldeb 'da ni - os nad oes arian gyda ni i wneud 'e lan, beth ry'n ni fod gwneud?
"Ar ddiwedd y dydd, adfail fydd e os ni'n gwario 'chydig bach ar gynnal a chadw'r adeilad bob blwyddyn. Dyw e ddim yn mynd i bara am byth yn anffodus.
"Mae'r arian sy'n cael ei wneud o werthiant yr adeilad hefyd yn cael ei fuddsoddi n么l i addysg yn yr ardal - felly dyna'r rheswm tu 么l i'r penderfyniad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd23 Mai 2013