Codiad cyflog 拢15,000 i brif weithredwr yn 'sarhaus'
- Cyhoeddwyd
Mae codiad cyflog o 14% i brif weithredwr Cyngor Ceredigion yn "sarhaus", yn 么l undeb.
Cafodd y cynnydd o 拢15,000 ei gymeradwyo gan y cyngor, gan godi cyflog y prif weithredwr i 拢130,000.
Dywedodd undeb Unsain bod y cynnydd yn sarhad i weithwyr eraill, yn cynnwys staff gofal, a gafodd gynnig o 1.75% o godiad cyflog.
Mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod rhaid i staff gael eu talu yn unol 芒'u dyletswyddau, a bod rhaid i gyflogau fod yn gystadleuol.
'Syfrdanol'
Cafodd staff cyngor dros Gymru, yn cynnwys glanhawyr, llyfrgellwyr a chasglwyr sbwriel, gynnig o godiad cyflog o 1.75%, gyda'r rhai ar y cyflogau isaf yn cael cynnig o 2.75%.
Ond fe gafodd y cynnydd i brif weithredwr Ceredigion ei gymeradwyo gan gynghorwyr, ar 么l cael s锚l bendith y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Dywedodd Alison Boshier o Unsain bod y cynnydd i'r prif weithredwr wedi "syfrdanu" staff sydd wedi "sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau gydol y pandemig".
Ychwanegodd bod y codiad cyflog yn amddiffyn y pennaeth tra bod staff eraill yn wynebu cynnydd mewn prisiau ynni, a bod angen i'r cyngor ystyried a oedd yn "hybu tegwch" o fewn y sir.
'Adlewyrchu dyletswyddau disgwyliedig'
Yn 么l y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fe fydd y cyflogau uchaf yn cynyddu o'r 拢106,077 presennol i rhwng 拢121,618-130,108.
Dywedodd Cyngor Ceredigion bod adolygiad o gyflogau wedi dechrau yn 2017, ac wedi cael gwared ar sawl swydd gyda chyflogau uchel.
Ychwanegodd Ray Quant, dirprwy arweinydd y cyngor, bod "dyletswydd i'n staff i sicrhau eu bod yn derbyn cyflogau yn unol 芒'u gwaith, ac mae hyn yn wir hefyd am y prif weithredwr".
Dywedodd bod y penderfyniad yn "adlewyrchu dyletswyddau disgwyliedig ac yn gystadleuol gydag awdurdodau lleol eraill Cymru".