Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Rhaid mesur effaith y pandemig ar y Gymraeg'
Mae angen mesur effaith Covid-19 ar yr iaith er bod casgliadau arolwg wedi dangos cynnydd yng nghanrannau'r boblogaeth sy'n ei siarad, yn 么l Comisiynydd y Gymraeg.
Mae'r ffaith i Arolwg Defnydd Iaith diweddaraf Llywodraeth Cymru awgrymu bod 22% yn gallu ei siarad a 56% yn ei defnyddio bob dydd yn newyddion calonogol, medd Aled Roberts.
Ond fe ddaeth yr arolwg i ben yn gynt na'r bwriad oherwydd y pandemig ac o'r herwydd nid yw'n adlewyrchu'r sefyllfa yn ei sgil.
Mae'r Comisiynydd yn rhybuddio y gallai'r pandemig, sydd "wedi arwain at newid yn y ffordd ydym yn byw ein bywydau ac ymwneud 芒'n gilydd" arwain at ostyngiad yn y ffigyrau.
Dywedodd: "Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn bwrw ati'n fuan i fesur effaith y pandemig ar yr iaith, a defnyddio'r canfyddiadau fel sail ar gyfer cynlluniau adfer ac ailgodi."
Roedd arolwg 2019-20 yn dangos cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad yr iaith bob dydd - 56% o'i gymharu 芒 53% yn 2013-2015.
Dywedodd Mr Roberts: "Yn sicr, mae'r canlyniadau yn dangos cam i'r cyfeiriad cywir. Er hynny, mae targed Llywodraeth Cymru o ddyblu'r ganran o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bod dydd erbyn 2050 yn uchelgeisiol iawn.
"Yr her nawr yw edrych ar yr ystadegau a gweld sut gellir sicrhau rhagor o gynnydd.
'Rhwng cyhoeddi'r adroddiad hwn a'r adroddiad blaenorol, mae nifer o ddatblygiadau pwysig wedi bod o ran hybu a hyrwyddo'r Gymraeg - o gyflwyno safonau'r Gymraeg a sefydlu hawliau iaith, i strategaeth y Llywodraeth a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, i enwi ond rhai."
Ychwanegodd y bydd yn cyhoeddi adroddiad "cynhwysfawr" yn ystod yr hydref ar sefyllfa'r Gymraeg, a fydd yn "pwyso a mesur y gwahanol ddatblygiadau a'r ffactorau sydd wedi effeithio ar yr iaith rhwng 2015 a 2020".
Bydd yr adroddiad hwnnw'n "fodd o roi cyd-destun i ganlyniadau'r arolwg, a bydd hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu uchelgeisiol i sicrhau rhagor o gynnydd".