Arolwg yn awgrymu bod 22% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg newydd yn dangos bod 22% o bobl Cymru - tua 682,000 - yn gallu siarad Cymraeg.
Dyna'r ffigwr ar gyfer y boblogaeth tair oed neu h欧n, yn 么l Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 Llywodraeth Cymru.
Ond mae amcangyfrif arall - yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben fis Mawrth 2021 - yn dweud y gallai'r ffigwr fod mor uchel 芒 29.1% (883,000).
Er mai'r Cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer ystadegau, mae'r Arolwg Defnydd Iaith blynyddol yn cynnig amcangyfrifon eraill yngl欧n 芒 sefyllfa'r iaith.
Siarad pob dydd
Mae'r Arolwg Defnydd Iaith diweddaraf yn dangos bod mwy na hanner (56%) y siaradwyr Cymraeg yn ei siarad bob dydd, i fyny o 53% yn 2013-15.
Mae hefyd yn dangos bod:
Siaradwyr Cymraeg rhwng 3 a 15 oed yn fwy tebygol nag unrhyw gr诺p oedran arall o siarad Cymraeg bob dydd, gydag ychydig dros ddwy ran o dair (67%) yn gwneud hynny.
45% o siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed bellach yn defnyddio eu Cymraeg bob dydd, sy'n gynnydd o bum pwynt canran ers 2013-15.
Bron i hanner y siaradwyr Cymraeg (48%) yn ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg.
Bron i ddau o bob tri siaradwr Cymraeg 16 oed neu h欧n yn teimlo'n hyderus wrth siarad yr iaith (40% yn hyderus iawn, a 24% yn eithaf hyderus).
69% o siaradwyr Cymraeg yn cytuno bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydynt (49% yn cytuno'n gryf, a 20% yn tueddu i gytuno).
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn dangos mai yn Sir Gaerfyrddin (94,600) a Gwynedd (90,700) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg, ac yng Ngwynedd (76%) ac Ynys M么n (68%) y mae'r canrannau uchaf.
Mae'r niferoedd isaf ym Mlaenau Gwent (10,900) a Merthyr Tudful (11,600), a'r canrannau isaf ym Mlaenau Gwent (16%), Sir Fynwy (16%) a Phen-y-bont ar Ogwr (18%).
Helpu disgyblion h欧n
Wrth gyhoeddi'r ffigyrau ddydd Mawrth, dywedodd y llywodraeth y byddent yn rhoi 拢2.4m tuag at helpu dysgwyr a chefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd 拢2.2m yn cael ei ddefnyddio i helpu disgyblion h欧n i ddysgu'r iaith.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Gyda llawer o deuluoedd yn symud i Gymru ac yn edrych i leoli plant h欧n mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mae mwy o bwysau bellach ar wasanaethau trochi i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt fel y gallant symud yn hyderus i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Bydd yr arian hefyd yn cefnogi disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a gollodd y cyfle, yn ystod y pandemig, i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd, ac y cafodd eu cysylltiad 芒'r iaith ei rwystro oherwydd y tarfu a achoswyd."
Wrth edrych ymlaen at gynnal Eisteddfod Genedlaethol arferol eto yn 2022, bydd 拢200,000 i ailadeiladu lefelau staffio'r Eisteddfod yn dilyn y pandemig.
Cynhelir Eisteddfodau Cenedlaethol 2022 a 2023 yng Ngheredigion ac ym Mhen Ll欧n.
Bydd yr arian hefyd yn cyfrannu at gynllun peilot a fydd yn sefydlu rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliant i gefnogi cynhwysiant cymunedol a chymdeithasol mewn ardaloedd lle cynhelir y digwyddiad blynyddol.
Cynyddu defnydd o'r iaith
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bod angen cefnogi sefydliadau allweddol wrth anelu at darged o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Dywedodd bod trochi a'r Eisteddfod yn "rhannau hanfodol o'n cynlluniau i helpu mwy ohonon ni i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg".
"Rwy'n falch hefyd o weld canlyniadau'r Arolwg Defnydd Iaith ar gyfer 2019-20. Mae'r rhain yn rhoi un golwg defnyddiol, meintiol i ni ar sut ry'n ni'n defnyddio'r Gymraeg yng Nghymru.
"Er bod tueddiadau cadarnhaol i'w gweld yn y data a bod angen dathlu'r rheini, wrth i ni barhau i weithredu Cymraeg 2050 byddwn ni'n edrych ar yr holl ystadegau a ffynonellau ymchwil sydd ar gael i ni i sicrhau ein bod ni'n seilio'n gwaith ar dystiolaeth, a bod y dystiolaeth honno'n gymorth i wybod beth sy'n gweithio neu beidio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd23 Awst 2019
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021