Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu cynlluniau trochi iaith
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr sir Gwynedd wedi gwrthwynebu cynlluniau sy'n peryglu canolfannau trwytho plant yn y Gymraeg.
Mae'r canolfannau yn trochi plant sy'n dod o du allan i'r sir yn y Gymraeg i'w helpu i astudio drwy'r iaith yn yr ysgol.
Oherwydd toriadau i'w gyllideb, mae'r cyngor yn bwriadu tynnu 拢96,000 oddi ar y nawdd sydd ar gael i'r canolfannau o fis Medi ymlaen.
Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Iau, fe wnaeth y cynghorydd Alwyn Gruffydd, o Lais Gwynedd, annog aelodau i wrthwynebu'r cynlluniau'n "gryf".
Yn y pendraw, fe wnaeth cynghorwyr gefnogi gwelliant i'r cynnig hwnnw, gan wrthwynebu cyflogi cymhorthyddion yn lle athrawon.
'Gwynedd yn dangos y ffordd'
Dywedodd Mr Gruffydd: "Mae trwytho'r bobl ifanc yma yn yr iaith wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda phlant yn gadael fel siaradwyr Cymraeg hyderus ar 么l dim ond 12 wythnos.
"Mae Gwynedd yn dangos y ffordd i weddill Cymru, ond rydym yn peryglu'r strwythur presennol os ydym yn mynd i lawr y ffordd hon."
Os bydd yr arian yn cael ei dynnu, y tebygrwydd ydy y bydd swyddi'n cael eu colli ac y bydd un o bum canolfan - yn Nolgellau, Llangybi, Caernarfon, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog - yn cau.
Er i gynnig Mr Gruffydd dderbyn cefnogaeth sylweddol, fe gefnogodd cynghorwyr welliant gan aelod o Blaid Cymru - Simon Glyn - o 29 pleidlais i 26.
Roedd y gwelliant hwnnw yn newid geiriad y cynnig gwreiddiol i gynnwys llinellau yn condemnio Llywodraeth Cymru am doriadau "ofnadwy" mewn grantiau, ac i wrthod toriadau a fyddai'n cael "effaith niweidiol" ar wasanaethau.
Pleidleisiodd y cyngor eto gan basio gwelliant arall oedd yn diffinio ystyr "effaith niweidiol" gan ystyried swyddi athrawon.
'Gobaith' newid meddyliau
Yn dilyn y cyfarfod ddydd Iau, dywedodd Mabli Siriol, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, eu bod yn "gynyddol obeithiol" y bydd y cabinet yn newid eu meddyliau.
"Mae'n glir nad oes gan y toriadau yma gefnogaeth y cyngor yn dilyn y bleidlais," meddai.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod yn rhagweld cynnydd o 拢35,000 mewn costau, ac yn wynebu toriad o 拢61,000 yn y Grant Gwella Addysg y mae'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd cabinet y cyngor, sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru, yn gwneud y penderfyniad terfynol ar 2 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2019