Cyfrifiad 2021: Effaith y pandemig i'w weld ar y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai o effeithiau'r pandemig a'r cyfnodau clo ar yr iaith Gymraeg gael eu gweld yng Nghyfrifiad eleni, yn 么l un arbenigwr iaith.
Dydd Sul 21ain Mawrth yw dyddiad Cyfrifiad 2021 pan fydd gofyn i bob aelwyd yng Nghymru a Lloegr gymryd rhan yn yr arolwg, sy'n digwydd bob 10 mlynedd.
Mae'r atebion i'r cwestiynau'n helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau wrth gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus, fel trafnidiaeth, addysg, iechyd ac yng Nghymru, yr iaith Gymraeg.
Fe ddangosodd Cyfrifiad 2011 ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd traddodiadol.
Yn 么l Meirion Prys Jones, cyn-bennaeth Bwrdd yr Iaith, mi allai'r pandemig achosi parhad yn y gostyngiad mewn canrannau.
"Bydden i'n tybio mai'r un fydd y patrwm - o allfudo gan bobl ifanc gan ein bod ni'n byw mewn ardal hynod o dlawd mewn gwirionedd."
"Felly wrth chwilio am waith a hyfforddiant bydd y bobl ifanc yn symud allan ac ar yr un pryd byddwn ni'n gweld mewnfudo yn digwydd."
"A dwi'n si诺r y bydd Covid 19 yn effeithio yn sylweddol ar hynny."
"Ni'n gallu gweld yn barod bod prisiau tai yn codi, bod pobl yn symud mewn, yn gweld y gallan nhw weithio o fan hyn yn rhwydd iawn."
"A mae hynny'n mynd i newid dynameg ieithyddol yr ardaloedd yn y gorllewin yn sylweddol iawn."
Llanrug ar y brig?
Ddeng mlynedd yn 么l Llanrug, yng Ngwynedd oedd 芒'r ganran uchaf o bobl yn dweud eu bod yn medru'r Gymraeg, 87%.
Mae rhywfaint o newid wedi bod yn y pentref ers hynny, yn 么l Cadeirydd y Cyngor Cymuned lleol, Cynghorydd Phillip Roberts.
"Wrth gwrs, mewn deng mlynedd mi fydd newid wedi bod," meddai.
"Mae 'na bobl yn ein gadael ni, siaradwyr Cymraeg, ac mae 'na bobl newydd yn symud i fewn - weithiau mae 'na Gymry Cymraeg yn symud i fewn.
Ychwanegodd: "Dwi'n gobeithi'n arw bod ni ddim yn gweld y ffigwr i lawr [yn 2021]. Ond os bydd, fydd rhaid i ni weithio i ddatrys y sefyllfa"
Ateb cwestiynau
Y Swyddfa Ystadegau sy'n cynnal y Cyfrifiad ac yn 么l eu rheolwr ymgysylltiad yng Nghaerdydd, Ena Lloyd, mae hyder wedi atal pobl yn y gorffennol rhag nodi eu bod yn medru'r Gymraeg.
"Fi'n cael sgwrs a mae pobl yn dweud: 'Fi ddim yn rhugl yn Gymraeg'. Ond mae nhw'n siarad yn naturiol 'da fi, a fi 'da nhw."
"So, s'dim neb yn gofyn y cwestiwn am unrhyw iaith arall, 'Pa mor rhugl ydyn nhw?'"
Eleni, bydd y ffurflen yn gofyn "Ydych chi'n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?" ac yna bydd modd ticio blwch ar gyfer pob gallu.
Dywedodd Ms Lloyd: "Mae fe'n rywbeth personol iawn, sut y'ch chi'n teimlo."
"Bysen i'n gweud wrth bob un, 'Sut y'ch chi'n bersonol yn teimlo am y cwestiwn yma?'"
"So, os 'dech chi'n gallu siarad tamed bach o Gymraeg a chi'n teimlo bod chi am ateb, rhowch tic yn y bwlch."