Y 'cywilydd' o fynd i'r carchar am gam-drin domestig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i garcharu deirgwaith am gam-drin domestig yn dweud bod prosiect arloesol wedi helpu i achub ei fywyd.
Dywedodd Mike fod ganddo gywilydd o'i ymddygiad, a ddeilliodd o iechyd meddwl gwael, "perthynas wenwynig a diod a chyffuriau".
Cynllun Barnardo's Cymru yw'r cyntaf i weithio gyda throseddwyr cam-drin domestig, dioddefwyr a'u plant.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod 76% o'r plant bellach mewn cartrefi mwy diogel a sefydlog.
'Roedden nhw'n ymddiried ynof'
Mae Mike o Gasnewydd yn ei 30au cynnar a dywedodd fod ei iechyd meddwl wedi dirywio ar 么l iddo ddioddef profedigaeth.
"Byddwn i'n teimlo dan straen gyda phethau bywyd pob dydd: gweithio drwy'r amser, materion ariannol... a lle bydd person arferol yn gallu ymdopi, os byddwch yn rhoi perthynas wenwynig ac yfed a chyffuriau yn y gymysgedd, mae'r cyfan yn chwythu i fyny, doedd e ddim yn iach.
"Roedd cam-drin domestig ar fy rhan i ac fe ges i gyfnodau yn y carchar yn y pen draw.
"Nes i'm gadael i'm tad ddod i mewn a'm gweld yn y carchar achos roedd gen i gywilydd.
"Gallaf ond dychmygu sut 'nath fy ymddygiad effeithio ar fy nghariadon ar y pryd.
"Er ein bod ni ar gyffuriau ac yn yfed, roedden nhw'n ymddiried ynof.
"Mae'n rhaid bod y ffaith nes i dorri'r ymddiriedaeth honno oherwydd fy nghyflwr meddyliol fy hun wedi torri eu calonnau.
"Doedd hi ddim tan fy nghyfnod olaf yn y carchar ges i amser i sortio fy mhen allan.
"Roedd bod yn y carchar, yn gaeth tu 么l y drws yna, yn rhoi lot o amser i feddwl ac sylwais fod yn rhaid i mi wella fy hun.
"Fe wnes i gyrsiau yn y carchar a dysgais cwpl o ddulliau 'nath helpu fi i ddelio gyda pethau.
"Roedd y cwrs hwn [gyda Barnardo's] fel gloywi hynny - a dysgais lawer mwy hefyd.
"Does dim beirniadu, 'dyn nhw ddim yn dal unrhyw beth yn fy erbyn.
"Mae gan bob berthynas 'niggles', ond gallwn ni ddarllen ein gilydd fel llyfr, mae'r ddau ohonom yn gwybod pryd i roi ychydig o le i'n gilydd."
Yn ddiweddar mae Mike wedi cael ei blentyn cyntaf gyda'i bartner newydd Emma. Rydyn ni wedi newid enwau'r ddau i amddiffyn eu plant.
Er bod eu perthynas yn un iach, mae gan Emma brofiad blaenorol o gam-drin domestig gyda thad ei phlant h欧n, a gafodd eu cymryd i ofal o ganlyniad i'r trais yn y cartref.
"Y cyfan roeddwn i eisiau erioed oedd iddyn nhw fod yn blant," meddai.
"Doedd gofalu amdanyn nhw ddim yn broblem ond roedd ceisio eu hatal rhag gweld y stwff na ddylen nhw ei weld - cam-drin domestig, corfforol, geiriol - roedd hynny'n anodd.
"Yn enwedig pan roedd y tad ond eisiau ei wneud o flaen y plant. Rydych chi'n teimlo mai eich bai chi ydy o.
"Sut gallwn i di gadael fy hun i fod mor wan? Sut gall tad fy mhlant wneud hynny i fi ac iddyn nhw?"
'Des i drwyddo gyda chymorth'
Eglurodd Emma mai'r trobwynt oedd pan ddechreuodd fod yn onest gyda'i gweithwyr cymdeithasol am yr hyn a oedd yn digwydd.
Cyn hynny roedd hi wedi bod yn ceisio amddiffyn ei phlant drwy ddelio ag ef ar ei phen ei hun.
"Des i drwyddo gyda chymorth a chefnogaeth o'r prosiect hwn.
"Dydw i ddim yn ddioddefwr mwyach, dwi'n rhywun sydd wedi goroesi.
"Does erioed wedi bod unrhyw gam-drin domestig rhyngof fi a'm partner nawr, ond mae'n amlwg ei fod wedi cael sefyllfaoedd fel hynny yn y gorffennol.
"Mae ganddo dechnegau nawr, ac mae'n gwybod bod cefnogaeth yno.
"Mae'n rhoi hyder i mi na fydd yn rhaid i mi fyth fod yn ofnus eto.
"A dwi'n gwybod beth i gadw llygad amdano, sut i ddelio ag ef, beth i'w wneud, pwy i alw."
Ers cwblhau'r prosiect Agor Drysau Cae毛dig gyda Barnardo's Cymru, tydi babi Emma a Mike ddim bellach ar gynllun amddiffyn plant ac mae Emma yn gobeithio cael ei phlant h欧n yn 么l adref un diwrnod.
"Mae [Barnardo's] wedi gweithio'n wych gyda fy mhlant," meddai. "Mae fy mab yn blentyn gwahanol.
"Mae'n fy ngwneud i'n hapus pa mor hapus ydyn nhw nawr, oherwydd dydyn nhw ddim mewn amgylchedd sy'n ddrwg iddyn nhw."
'Gosod esiampl dda'
"Mae fy mab bach yn fendith," meddai Mike. "Byddwn i'n mynd i ddiwedd y byd iddo.
"Mae e fel y wobr rwy'n ei chael am droi fy mywyd o gwmpas ac yn reswm i gadw popeth ar y trywydd iawn.
"Nawr mae gen i lygaid bach arna i ac mae'n rhaid i mi wneud yn si诺r fy mod i'n gosod esiampl dda iddo."
Mae'r prosiect wedi ei ariannu am ail flwyddyn gan y Swyddfa Gartref ac mae wedi gweithio gyda mwy na 500 o deuluoedd ledled Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili.
Roedd gwerthusiad gan Sefydliad Gofal ym Mhrifysgol Oxford Brookes wedi dod i'r canlyniad fod y prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd.
Mewn 48% o achosion roedd cyfraniad y gwasanaethau cymdeithasol wedi gostwng ac roedd 95% o ffeiliau plant yn dangos gwelliant yn eu hiechyd a'u lles emosiynol.
Dywedodd adborth gan rieni fod y plant yn llai dig, ymosodol neu dreisgar, tra nad oedd rhai bellach yn rhedeg i ffwrdd, yn gwlychu'r gwely neu'n hunan-niweidio.
Dywedodd yr adroddiad fod y broses o wella yn debygol o fod yn un hir a chymhleth dros nifer o flynyddoedd yn hytrach na misoedd, ond roedd y cynllun yn un oedd werth buddsoddi ynddi a'i gyflwyno ymhellach.
Mae Georgia Lagden yn gweithio fel gweithiwr cymorth gyda Barnardo's Cymru i'r rhai sydd wedi cyflawni'r trais ac esboniodd nad yw pob dyn am ymgysylltu i ddechrau.
"Mae rhai ohonynt mewn cyfnod enbyd ac eisiau'r gefnogaeth honno," meddai. "Yna rwy'n gweithio gyda rhai dynion a fydd yn anwybyddu ei fod yn digwydd - mae'n broses o wadu.
"Rydyn ni'n hoffi dod i adnabod pobl - mae'r ymddygiadau hyn yn cael eu dysgu yn rhywle, tydi pobl ddim yn mynd yn dreisgar neu'n sarhaus neu'n rheoli bywydau eraill dros nos ac rydym yn cydnabod hynny.
"Os ydyn nhw wedi cael trawma plentyndod - mae hynny'n eithaf aml yn wir - gallwn ganolbwyntio ar hynny ac edrych ar sut roedden nhw'n teimlo fel plant ac egluro nad ydyn ni eisiau i'w plant deimlo fel hyn.
"Gall hynny fod yn foment o oleuni iddynt."
Gan y bydd llawer hefyd yn cael trafferth gydag iechyd meddwl gwael neu cam-ddefnyddio diod neu cyffuriau, bydd yn rhaid mynd i'r afael 芒 nifer o ffactorau.
"Mae'n wasanaeth hanfodol i'r holl deuluoedd sy'n cael eu cyfeirio atom."
Sam Jenkins yw un o'r t卯m sy'n cefnogi'r dioddefwyr.
"Rydyn ni'n gweld llawer o newidiadau," meddai. "Hyder, hunan-barch, gwneud penderfyniadau gwell, mwy o annibyniaeth a rhyddid.
"Mae'n dibynnu ar y sefyllfa, ond mae rhai cyplau yn aros gyda'i gilydd ac mae eu perthynas yn gwella, mae rhai pobl yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau bod yn y berthynas honno mwyach a symud ymlaen ond rydyn ni'n gweld llawer o ganlyniadau cadarnhaol."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan 91热爆 Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2020