91Èȱ¬

'Trodd y geiriau cas yn gleisiau glas'

  • Cyhoeddwyd
Man with clenched fist standing in front of woman (posed photo)Ffynhonnell y llun, Getty Images

Aros gartref. Achub bywydau. Dyna'r gorchymyn yn ystod pandemig COVID-19. Ond beth os mai gartref yw'r lle mwya' peryglus?

Mae Bethan* wedi byw gyda chyfyngiadau ac o dan reolaeth am 15 mlynedd - a hynny yn ei chartref ei hun ac o fewn ei pherthynas.

Daeth lockdown hunllefus Bethan i ben cyn i'r wlad fynd dan glo - ond nid yw hynny'n wir ar gyfer miloedd o rai eraill sy'n byw mewn perthynas dreisgar yn ystod yr epidemig.

"Dwi'n clywed pobl yn dweud y bysa nhw wedi gadael ers talwm a gofyn pam bod rhywun yn aros os ydi nhw'n cael eu cam-drin," meddai Bethan, sydd o Sir y Fflint.

"Mae'n anodd i rywun sy' heb fod mewn sefyllfa debyg eu hunain ddeall."

Yn wên o glust i glust

Syrthiodd Bethan mewn cariad gyda pherson carismatig, poblogaidd, oedd wastad yn gwenu. Roedd hi'n teimlo bod ganddynt berthynas dda, digon da i ddyweddïo a chael tŷ gyda'i gilydd.

Dim ond ar ôl dechrau byw â'i gilydd gwelodd Bethan fod y ddelwedd allanol yn gallu newid yn llwyr tu ôl i ddrysau caeedig y tŷ.

Prin oedd y croeso yn eu cartref i deulu a ffrindiau Bethan. Roedd ei phartner yn bwdlyd, unai'n diflannu i'r llofft neu'n eistedd heb ddweud gair.

Dywedodd Bethan: "'Nath neb sôn ond roedda' nhw'n amlwg yn teimlo'n anghyfforddus."

Ymhen dim doedd neb yn galw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Partner Bethan oedd wastad yn ateb y ffôn tŷ a phenderfynu os oedd Bethan ar gael neu ddim: "Os o'n i'n cyffwrdd fy mobile o'n i'n cael…'Pwy sy 'na? Efo pwy ti'n siarad? Be' ti'n 'neud?'"

Ymhen dim doedd neb yn ffonio.

Byd yn mynd yn llai

Rŵan bod nhw'n 'gwpwl', mynnodd ei phartner bod rhaid i bopeth fod yn joint. Cyfrif Facebook, cyfrif banc… roedd cyflog Bethan yn mynd yn syth i'r banc, ond doedd ganddi ddim mynediad i'r cyfrif, dim cerdyn, ac ar ffôn ei phartner oedd yr ap bancio.

Dywedodd: "O'dd o'n gwneud sens am wn i, dwi'm yn grêt efo pres, a roedda' ni bob tro efo'n gilydd, siopa, torri gwalltia.

"Always together, never apart, oedda ni'n ddeud."

Roedd partner Bethan yn ei rheoli hi'n llwyr: "Pan o'dd ffrindia gwaith yn gofyn i fi fynd am banad neu ddrinc, o'n i'n gwrthod am bod gennai'm pres, natho nhw stopio gofyn yn y diwadd."

Roedd byd Bethan yn mynd yn llai ac yn llai wrth iddi gael ei hynysu.

'Ddim yn berthynas iach'

Wrth edrych yn ôl mae Bethan yn sylweddoli bod ei phartner wedi llwyddo i gael mwy a mwy o reolaeth drosti gyda newidiadau cynnil a gweithredoedd slei, pethau oedd yn cael eu cyfiawnhau drwy ddweud eu bod 'er lles' Bethan.

"O'n i'n cael fy ngalw yn hopeless, useless, stiwpid, a thick bob dydd a roedd yn dweud 'Lle fysa chdi hebdda fi? Ti'n lwcus, 'sa 'na neb arall isio chdi,' ac o'n i'n coelio hynny."

Mae Bethan yn dioddef gor-bryder ac iselder a dechreuodd weld gwnselydd. Helpodd y sesiynau cwnsela iddi sylweddoli nad oedd hi mewn perthynas iach.

"Ond o'n i'm yn cysidro fo'n gam-drin domestig.

"O'n i'n meddwl bo fi'n deall domestic abuse yn well na neb, o'n i wedi gweld creithiau a chleisiau Mam," medda Bethan, oedd wedi byw mewn lloches pan yn blentyn ar ôl i'w mam adael ei llysdad treisgar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bu rhaid iddi cael triniaeth am PTSD yn dilyn y trawma o gael ei cham-drin yn rhywiol pan yn blentyn.

Tro ar fyd

Yna, yn ôl Bethan, bu newid 'dramatig' yn ei pherthynas hi a'i phartner wedi iddynt gael plentyn. Tra bod ei phartner yn rhiant da ac yn dotio ar eu merch, roedd yna hefyd genfigen amlwg.

Gwaethygodd ymddygiad ei phartner a symudodd Bethan i'r llofft sbâr i gysgu. Wrth iddynt bellhau, a'i phartner yn colli rheolaeth, trodd y geiriau cas yn gleisiau glas.

Ceisiodd Bethan ddod â'r berthynas i ben sawl gwaith ond roedd hi'n anodd iawn heb unfan i fynd a heb arian.

Daeth y trobwynt y noson ddychwelodd Bethan adra' hanner awr yn hwyrach na gytunwyd, o barti ymddeoliad cyd-weithiwr. Ymosododd ei phartner arni a'i gwthio i lawr y grisiau.

Cafodd anaf difrifol i'w phen a bu rhaid mynd i'r ysbyty. Celwydd a ddywedwyd wrth yr ysbyty, bod Bethan wedi baglu dros degan Peppa Pig ar y grisiau.

Dianc

Roedd Bethan yn gwybod fod rhaid iddi adael er mwyn ei phlentyn.

Wedi iddi wella a dychwelyd i'w gwaith, aeth i swyddfa CAB (Cyngor ar Bopeth) yn y dre i holi am ei hawliau fel rhiant.

Ffoniodd ei phartner hi a gofyn "Lle wyt ti?". 'Siopa' oedd ateb Bethan.

Gwaeddodd ei phartner arni: "Ast gelwyddog, dwi'n gallu gweld dy location di ar fy ffôn."

Dywedodd Bethan: "Nes i jest torri lawr a dweud fy stori."

Cysylltodd yr Ymgynghorydd CAB ag un o swyddfeydd DASU (Uned Diogelwch Cam-drin Domestig) yng ngogledd Cymru a rhoddwyd cynllun ar waith i ddiogelu Bethan a'i phlentyn a dod o hyd i loches iddynt ar frys.

Oherwydd ei phrofiad o flynyddoedd yn ôl efallai, roedd Bethan wedi cymryd bod lloches yn rhywle ar gyfer merched oedd yn cael eu cam-drin gan ddynion, a ddim yn addas i ferched fel hi oedd mewn partneriaeth sifil gyda pherson o'r un rhyw.

Dywedodd Bethan: "Mae byw mewn lloches yn wahanol iawn i be' dwi'n gofio o pan o'n i'n blentyn.

"Dwi a fy merch wedi cael gymaint o support."

Gyda chymorth y gweithwyr lloches mae Bethan wedi magu hyder a hunan barch eto: "Dwi' wedi ffeindio'n hun, a dwi'n edrych ymlaen i'r dyfodol."

Sut fyddai gorfod hunan ynysu gyda'i gilydd oherwydd COVID-19 wedi bod i Bethan a'i phartner tybed?

"Fyswn i byth wedi gallu aros adra ac aros yn saff."

*Mae enwau wedi newid.

Mae gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth domestig ar draws Cymru yn parhau yn ystod cyfnod COVID-19. Mae gan ddioddefwyr hawl i adael cartref i geisio cymorth mewn lloches er gwaethaf y cyfyngiadau ac mae ar gael i bawb 24/7.

Hefyd o ddiddordeb: