91Èȱ¬

'Gwres yn cynyddu'r straen' ar wasanaethau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Treforys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ambiwlansys i'w gweld yn aros y tu allan i Ysbyty Treforys fore Mercher

Mae rheolwyr iechyd wedi rhybuddio bod y gwres eithafol yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau.

Am y tro cyntaf yn y DU mae rhybudd oren am wres eithafol mewn grym ac mae'n weithredol ar draws y de a rhan helaeth o'r canolbarth tan 23:59 nos Iau.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans gymryd y cam anarferol ddydd Llun o ddatgan nad oedd digon o adnoddau i ymateb i gynnydd sylweddol yn nifer y galwadau am gymorth.

Dywedodd cyfarwyddwr o Ysbyty Treforys yn Abertawe bod cleifion gyda "chyflyrau sy'n peryglu bywyd" yn cerdded i mewn i ysbytai oherwydd y pwysau "eithriadol" ar ambiwlansys.

Ychwanegodd bod "yr holl wasanaethau o feddygon teulu i adrannau brys" dan fwy o straen nag oedd eisoes yn sgil y tywydd poeth.

Disgrifiad,

Beth yw'r peryglon o losgi'ch croen yn yr haul tanbaid?

Dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ddydd Mawrth eu bod wedi derbyn oddeutu 2,000 o alwadau 999 y dydd dros y tri diwrnod diwethaf.

Roedd nifer yr achosion ddydd Llun 9% yn uwch na'r disgwyl, 11% yn uwch o'i gymharu â'r un diwrnod wythnos ynghynt, sef 12 Gorffennaf, a 29% yn uwch nag ar ddydd Llun 20 Gorffennaf 2020.

Roedd nifer y galwadau coch, sef yr achosion mwyaf brys, bron i 30% yn uwch nag ar y dydd Llun cynt.

Yn sgil oedi ar ben hynny cyn i ysbytai allu derbyn cleifion, cyhoeddodd yr ymddiriedolaeth nad oedd modd ymateb i bob galwad 999 a gosod trefniadau neilltuol.

Bu'n rhaid i rai cleifion aros am oriau i ambiwlans gyrraedd, ond fe gafodd cleifion eraill gyngor i fynd â'u hunain i'r ysbyty, ffonio llinell 111 y GIG, cysylltu â meddygfa neu uned fân anafiadau.

Dywed rheolwyr mai galwadau gwyrdd oedd 21% o'r galwadau mewn gwirionedd ac roedd modd i'r gwasanaeth 111 ddelio gyda nhw.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ambiwlans Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ambiwlans Cymru

'Sefyllfa ddifrifol iawn'

Ni wnaethpwyd y penderfyniad ar chwarae bach, medd cyfarwyddwr gweithrediadau'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, Lee Brooks.

"Mae'n arwydd o sefyllfa ddifrifol iawn," meddai. "Fe olygodd gwres ddoe, ynghyd ag oedi mewn ysbytai, ein bod wedi cyrraedd pwynt yn gynnar gyda'r nos ble roedd y galw'n fwy nag ein capasiti i ymateb mewn ffordd ddiogel ac amserol."

Mae'n ymddiheuro i unigolion fu'n rhaid aros am gyfnod "gormodol" am ambiwlans ddydd Llun.

"Nid dyma'r gwasanaeth rydym eisiau ei ddarparu," meddai. "Er ein bod mewn sefyllfa fwy sefydlog heddiw, rydym yn dal yn wynebu pwysau eithafol ar draws Cymru ac rydym angen cymorth y cyhoedd

"Ffoniwch 999 yn unig, os gwelwch yn dda, os yw bywyd yn y fantol - ataliad ar y galon, poen yn y fron neu drafferthion anadlu, mynd yn anymwybodol, mygu neu waedu catastroffig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwres yn cynyddu'r pwysau ar wasanaeth iechyd oedd eisoes dan straen, meddai Mark Poulden

Mae cyfarwyddwr clinigol meddygaeth frys Ysbyty Treforys yn Abertawe yn dweud eu bod eisoes yn dechrau gweld effaith y tywydd poeth ar wasanaethau.

"Mae'r gwres eithafol yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaeth iechyd oedd eisoes yn wynebu galw uchel am yr holl wasanaethau o feddygon teulu i adrannau brys," meddai Mark Poulden.

"Fel adrannau brys ar draws Cymru, mae Ysbyty Treforys wedi gweld niferoedd uwch o gleifion salach yn dod trwy ein drysau ers sbel. Gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dan bwysau eithriadol, rydym wedi dechrau gweld cleifion yn cerdded i mewn gyda chyflyrau sy'n peryglu bywyd.

"Mae hyn oll yn cynyddu amseroedd aros i'r rheiny sydd ag anafiadau neu salwch llai difrifol.

"Nawr rydym yn gweld cleifion yn cyrraedd gydag anafiadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd hefyd.

"Rydym wedi gweld sawl achos o losgiadau haul, ond diolch i'r drefn roedd y mwyafrif yn llosgiadau cymharol fân. Rydym hefyd wedi gweld pobl a gafodd anaf wrth fwynhau gweithgareddau awyr agored yn y tywydd braf."

Mae Mr Poulden yn annog y cyhoedd i "fwynhau'r tywydd braf" am ei fod "yn llesol yn gyffredinol".

Ond mae'n apelio arnyn nhw i fod yn ofalus "oherwydd mae'r gwasanaeth iechyd yn brysur eithriadol ac mae'n bosib na allai ymateb neu gynnig triniaeth at salwch ac anafiadau sy'n gysylltiedig â'r gwres mor gyflym ag y byddwch yn ei ddymuno."

Fferyllfeydd yn fan cyntaf am gyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bod hwythau hefyd wedi gweld mwy o gleifion yn cyrraedd ysbytai gyda chyflyrau'n ymwneud â'r gwres.

"Mae ein Hunedau Mân Anafiadau wedi cofnodi cynnydd yn nifer y cleifion sy'n cyrraedd gyda phroblemau'n ymwneud â llosgiadau haul a brathiadau pryf," meddai.

Mae'r bwrdd yn annog pobl i "gymryd camau rhagofal yn yr haul" ac "ystyried yn ofalus ble yw'r lle gorau iddyn nhw gael mynediad i'n gwasanaethau", fel bod adrannau'n "gallu rhoi gofal achub bywyd i'w rhai sydd wirioneddol ei angen",

Mae'n awgrymu taw'r fferyllfa yw'r man cyntaf i ofyn am gyngor a thriniaeth at losg haul, brathiadau pryf, trawiad gwres a chlefyd y gwair.

"Gall ein Hunedau Mân Anafiadau drin ystod eang o anafiadau, ac mae Adran Frys Ysbyty Athrofaol Y Faenor ar gyfer gofal brys ble mae bywyd yn y fantol yn unig."

Pynciau cysylltiedig