Rhybudd oren cyntaf am wres eithafol i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wres eithafol am y tro cyntaf yn y DU, a fydd yn effeithio ar dde Cymru o brynhawn Llun.
Daeth y rhybudd oren am wres eithafol i rym am 16:05 ddydd Llun, a bydd yn weithredol hyd at 23:59 nos Iau.
Mae gwyliau'r haf wedi dechrau gyda tywydd tanbaid yng Nghymru, gyda'r tymheredd yn cyrraedd 29C yn Sir Fynwy ddydd Sadwrn.
Ond mae disgwyl i'r gwres barhau tan ddiwedd yr wythnos cyn i'r tymheredd ddechrau gostwng ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y gwres gael effaith ar iechyd pobl a'i fod yn debygol y bydd yn rhaid i bobl newid eu harferion yr wythnos hon i ymdopi gyda'r tywydd.
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth, bu'r Dr Rhian Williams yn rhoi cyngor i bobl sut i osgoi niwed yn y gwres mawr. Roedd yn cynghori pobl i aros dan gysgod cymaint ag sy'n bosib, ac i yfed digon o dd诺r a defnyddio eli haul os oes rhaid mynd allan.
Cofnododd pedair gwlad y DU ddiwrnod poethaf y flwyddyn dros y penwythnos, ac mae daroganwyr yn rhybuddio y byddai'r tymheredd yn parhau i ddringo - gan gyrraedd hyd at 33C mewn mannau.
Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:-
Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2021