Galw am fonws i athrawon am farcio asesiadau 'llafurus'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am dalu bonws ariannol i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol yn ystod yr haf.
Ysgolion a cholegau fydd yn penderfynu ar raddau TGAU a Safon Uwch eleni, ar 么l i arholiadau gael eu canslo yn sgil y pandemig.
Yn 么l Lisa Williams, a sefydlodd ddeiseb ynghylch y mater, mae'r gwaith marcio, safoni a chymedroli yn faich ychwanegol ar athrawon, ac maen nhw'n haeddu bonws am eu hymdrechion, yn debyg i'r hyn fydd yn digwydd yn Yr Alban.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn llwyr gydnabod ymrwymiad ac ymdrech aruthrol athrawon yn ystod y pandemig, a'u bod wedi darparu gwerth dros 拢9m o gyllid i gefnogi ysgolion a cholegau gyda'r broses asesu.
'Fel swydd ychwanegol'
Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb erbyn hyn, felly mi fydd y cynnwys yn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd.
Dywedodd Mrs Williams, sy'n athrawes uwchradd o Abercynon, bod yr holl waith sydd ynghlwm 芒'r asesiadau newydd bron 芒 bod fel cael swydd ychwanegol.
"Ma' nifer o athrawon wedi dweud wrtha i, athrawon sydd weithiau yn arholwyr allanol, ma' nhw'n teimlo eu bod nhw'n gwneud yr un gwaith os nad yn fwy, a ddim yn cael eu talu," meddai.
"Ry' ni'n cytuno, ni mo'yn y gorau ar gyfer ein disgyblion, a ma' nhw'n haeddu'r graddau am y gwaith caled maen nhw wedi'i wneud yn ystod y pandemig a ni sy'n nabod ein disgyblion ni orau.
"Ond i fod yn hollol onest doedden ni ddim yn disgwyl y gwaith llafurus a beichus yma.
"Nid yn unig y'n ni wedi gorfod paratoi asesiadau ond ry' ni wedi gorfod gwneud llawer o hyfforddi ychwanegol hefyd.
"Mae ysgolion wedi derbyn arian i ryddhau staff oddi ar yr amserlen i farcio ac yn y blaen - a does dim bai ar ysgolion - ond dyw'r oriau ddim wedi bod yn ddigonol i nifer o staff."
Yn Yr Alban mae'r prif weinidog, Nicola Sturgeon, wedi dweud y bydd athrawon a darlithwyr sy'n rhan o'r broses o farcio a safoni asesiadau eleni yn derbyn taliad o 拢400, ac y byddai deuddydd yn cael ei ddynodi i athrawon allu bwrw 'mlaen 芒'r gwaith.
Un sy'n cytuno bod angen cydnabod y pwysau ychwanegol y mae athrawon yn ei wynebu yw Rebecca Williams, Swyddog Polisi undeb athrawon UCAC.
"Mae'n bwysig [y ddeiseb] dwi'n credu, yn yr ystyr ei fod e'n tynnu sylw at y ffaith bod cymaint o waith ychwanegol wedi glanio ar ysgolion a cholegau yn sgil y trefniadau asesu eleni," meddai.
"Ma'r gofyniant penodol, efallai, yn un all fod yn gymhleth, all fod ag anawsterau - ond y peth pwysig yw cydnabyddiaeth o'r gwaith aruthrol ychwanegol sydd wedi glanio."
'Ymrwymiad ac ymdrech aruthrol'
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "llwyr gydnabod ymrwymiad ac ymdrech aruthrol athrawon, darlithwyr a'r holl staff yn ein lleoliadau addysg i gefnogi dysgwyr drwy gydol y pandemig".
"Rydym wedi darparu mwy o gyllid yn gyfrannol nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig, gwerth dros 拢9m, i gefnogi ysgolion a cholegau gyda'r broses asesu.
"Bydd hyn yn helpu i recriwtio staff ychwanegol, wrth weithio mewn partneriaeth ag athrawon i gynllunio proses asesu sy'n amharu cyn lleied 芒 phosibl ar wyliau'r haf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021