Trefn graddau ysgol 'ar draul lles disgyblion'
- Cyhoeddwyd
Mae gormod o bwysau ar ddisgyblion ac ysgolion yn sgil y drefn ar gyfer penderfynu graddau TGAU a Safon Uwch, yn 么l penaethiaid ac undebau.
Ysgolion a cholegau fydd yn pennu'r graddau eleni ond mae 'na bryder y gallai'r canllawiau olygu gorlwytho myfyrwyr gydag asesiadau er mwyn casglu tystiolaeth.
Mae undeb athrawon UCAC wedi ysgrifennu at y gweinidog addysg a'r Comisiynydd Plant i fynegi "pryder difrifol" am y sefyllfa.
Dywedodd bwrdd arholi CBAC a'r rheoleiddiwr Cymwysterau Cymru bod gan ysgolion a cholegau hyblygrwydd wrth ddewis tystiolaeth.
'Ar draul lles disgyblion'
Yn 么l Dr Llinos Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin mae'r system yn "eithaf cymhleth" a "biwrocrataidd".
Bydd canlyniadau TGAU, AS a Safon Uwch yn cael eu penderfynu gan athrawon ar sail gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y cwrs ar 么l i arholiadau ffurfiol gael eu canslo.
Ond yn 么l Dr Jones er bod y graddau'n cael eu pennu gan yr ysgol mae yna bwyslais sylweddol ar gasglu tystiolaeth i gyfiawnhau'r graddau.
"Maen nhw'n gofyn bod unrhyw radd sy'n cael ei ddyfarnu gan yr ysgol yn cael ei ategu gan dystiolaeth gadarn i ddangos cyrhaeddiad myfyriwr ar draws eu pynciau, felly mae mwy o bwyslais ar y dystiolaeth eleni na beth oedd llynedd," meddai.
Dywedodd bod ysgolion wedi casglu tystiolaeth am gyrhaeddiad disgyblion er gwaethaf y cyfnod o ddysgu o bell, ond bod rhaid ategu hynny gydag asesiadau yn yr ystafell ddosbarth ar 么l y Pasg.
Y bwriad yn yr ysgol fydd cynnal "asesiadau bach byr" o fewn oriau gwersi'r disgyblion yn hytrach nag arholiadau mwy ffurfiol.
"Ein gofid ni fel ysgolion yw bod 'na ormod o bwyslais yn mynd i fod ar hyn, a hynny ar draul iechyd a lles ein disgyblion ni," meddai.
'Angen mwy o hygrededd i athrawon'
Dywedodd hefyd y byddai'r system newydd yn "hirach a mwy beichus i ysgolion" wrth orfod ymateb i apeliadau posib gan ddisgyblion pan gawn nhw eu canlyniadau dros dro ym mis Mehefin.
Caiff y canlyniadau ffurfiol eu cyhoeddi fis Awst.
Mae Dr Jones yn teimlo bod angen rhoi "mwy o hygrededd i waith athrawon".
"Unwaith eto 'da ni'n teimlo ein bod ni dan warchae mewn ffordd a bod 'na bwysau mas yna, bo nhw ddim yn credu'r hyn sydd gyda ni, ein barn broffesiynol ni fel athrawon," meddai.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, bod angen i ysgolion a cholegau gasglu tystiolaeth fel y gallan nhw wneud penderfyniadau cadarn am raddau i'w myfyrwyr.
"Rydyn ni eisiau bod yn glir iawn bod llawer iawn o hyblygrwydd o ran sut maen nhw'n mynd ati i wneud hyn," meddai.
"Gellir defnyddio tystiolaeth sydd wedi ei gynhyrchu yn ystod y cwrs cyn belled ei fod yn waith y dysgwr ei hun ac yn cynrychioli eu cyrhaeddiad ar ddiwedd y cwrs.
Dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Ian Morgan y gallai ysgolion a cholegau ddewis tystiolaeth o "ystod eang o ffynonellau gan gynnwys tasgau wedi eu creu gan y ganolfan, cyn-bapurau wedi'u haddasu, a gwaith cwrs".
"Fe fyddwn ni'n parhau i gydweithio 芒'r Gr诺p Cynghori Dylunio a Chyflawni a Chymwysterau Cymru i gyflwyno dull hyblyg a theg, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael graddau dilys, credadwy a dibynadwy'r haf hwn," meddai.
Mae Lleucu, 17, sy'n astudio am bedwar Safon Uwch a'r Fagloriaeth, yn dweud ei bod "ychydig yn bryderus" achos bod "cymaint o ansicrwydd".
"Dwi'n credu bod fy ysgol i wedi bod yn gr锚t o ran rhoi'r ddarpariaeth o beth maen nhw'n gwybod a rhoi hwnna'n syth i ni," meddai.
"Ni wedi cael amserlen o'r gwersi sydd i ddod dros y saith wythnos nesa' ac mae hynna wedi helpu ond dros y Pasg nawr fydd rhaid paratoi ar gyfer yr asesiadau yma sydd yn edrych mwy fel arholiadau yn y dosbarth erbyn hyn, felly fi'n credu bod lot o waith o'n blaenau," meddai.
"Dwi'n credu bod e'n beth da bo' ni'n cael y canlyniadau'n gynharach blwyddyn yma oherwydd mae wedi bod yn flwyddyn heriol.
"Felly dwi'n si诺r bydd adeg yr haf yn un hapus i ni ddisgyblion o ran llai o bwysau ond dwi'n credu bydd y saith wythnos nesa'n heriol."
Mae undebau dysgu'n dweud bod y sefyllfa yn destun pryder i aelodau ledled Cymru.
"Mae lefel y pryder yn uchel oherwydd mae hyn yn annisgwyl iddyn nhw," meddai swyddog polisi UCAC, Rebecca Williams.
"Roedden nhw'n meddwl bod nhw'n gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd ond mae hyn yn bur wahanol ac maen nhw'n poeni'n wirioneddol am les eu disgyblion nhw.
"Maen nhw'n gweld hyn yn ormod mewn amser byr ac yn annisgwyl - bod e'n rhy debyg mewn gwirionedd i gyfnod arholiadau allanol traddodiadol ond gyda llawer llai o rybudd ac yn dilyn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i bawb hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2021