91热爆

Pryd fydd modd llacio mesurau Covid mewn ysgolion?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgyblion mewn mygydauFfynhonnell y llun, PA Media

Gyda gwyliau hanner tymor ar ddechrau, mae cyfraddau Covid wedi bod yn isel mewn ysgolion ers wythnosau ond mae mesurau fel gorchuddion wyneb a swigod dosbarth dal mewn grym.

Yn 么l Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ddylai'r cyfyngiadau ddim para "ddiwrnod yn hirach na'r angen".

Dywedodd y dirprwy brif swyddog meddygol, Dr Chris Jones y gallai "wneud synnwyr" i lacio rheolau yn ystod misoedd yr haf.

Ond mae undebau dysgu yn parhau i bryderu am godi cyfyngiadau.

'Hapus i fod yn yr ysgol a'r coleg'

Dywedodd Sally Holland bod ysgolion yn gwneud gwaith "ardderchog" er gwaetha'r cyfnod anodd.

"Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrtho ni mae'n well ganddyn nhw fod mewn ysgolion gyda'r mesurau fel mygydau a swigod na fod adref - maen nhw'n hapus i fod yn yr ysgol a'r coleg," meddai.

Ond dywedodd yn ogystal 芒 gwrando ar dystiolaeth am epidemioleg, mae angen i Lywodraeth Cymru glywed am yr effaith gymdeithasol mae'r cyfyngiadau mewn ysgolion yn cael ar blant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sally Holland eisiau i'r llywodraeth adolygu'r mesurau Covid yn gyson

"Pob diwrnod maen nhw'n [y canllawiau] cael effaith ar brofiadau plant a phobl ifanc ac athrawon, felly dwi'n disgwyl i'r llywodraeth arolygu'r mesurau a dwi ddim ishe i'r llywodraeth gadael nhw i drifftio," meddai.

Mae'r Comisiynydd wedi gofyn i'r llywodraeth adolygu'r canllawiau'n gyson ac mae'n dweud ei bod yn gyrru ymlaen y negeseuon mae hi'n eu derbyn gan blant am eu pryderon.

Ond ychwanegodd ei bod hi'n ymwybodol bod lledaeniad amrywiolyn newydd India'n ffactor sy'n rhaid ei ystyried wrth wneud penderfyniadau.

"Mae pobl yng Nghymru yn nerfus am y variant ond mae'n rhaid i ni bwyso a mesur effaith y mesurau ar fywydau bob dydd a'r risg o leihau y mesurau hefyd," meddai.

Effaith ar ddysgu

Ar hyn o bryd mae disgwyl i orchuddion wyneb gael eu gwisgo gan ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd a cholegau gan gynnwys mewn ystafelloedd dosbarth.

Mewn ysgolion cynradd, rhaid i staff wisgo gorchuddion pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.

Mae staff ysgol a disgyblion oedran uwchradd yn cael eu hannog i gymryd profion Covid cyflym ddwywaith yr wythnos.

I arbed gormod o gymysgu mae disgyblion yn cael eu cadw mewn grwpiau cyswllt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hannah Partington yn fodlon parhau i wisgo mwgwd am y tro

Dywedodd Ian Gerrard pennaeth Ysgol Aberconwy, yng Nghonwy, bod disgyblion wedi ymdopi'n dda gyda'r cyfyngiadau.

Mae'n awyddus i'r cyfyngiadau gael eu llacio "mewn modd diogel", gan fod gwisgo mygydau "yn cael effaith ar ddysgu yn y dosbarth... ond mae'n rhaid dilyn y wyddoniaeth".

Dywedodd Hannah Partington, disgybl 18 oed: "Dwi'n meddwl byswn yn gyfforddus i barhau i'w gwisgo. Mae'n gwneud i chi deimlo ychydig yn saffach."

Tystiolaeth 'galonogol iawn'

Dywedodd Dr Chris Jones y dirprwy brif swyddog meddygol mai "ychydig iawn o achosion oedd yn cael eu cofnodi mewn ysgolion" a bod yna "dystiolaeth galonogol iawn".

Yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru roedd 54 achos o Covid mewn ysgolion dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r ffigyrau'n cynnwys disgyblion a staff, gyda 49 mewn ysgolion cynradd a phump mewn ysgolion uwchradd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Yn bersonol, byddwn o blaid camu'n 么l o ddefnyddio gorchuddion wyneb yn ystod misoedd yr haf," meddai Dr Jones.

"Efallai y bydd angen i ni eu hailgyflwyno eto pan ddaw'r gaeaf ond allwn ni ddim gwneud y penderfyniad heb ennill hyder pobl - mae'n rhaid i bawb deimlo'n hapus ei fod e'n gwneud synnwyr."

Ychwanegodd bod gwybodaeth am orchuddion wyneb yn dod cyn hir gan gr诺p o arbenigwyr sy'n cynghori'r llywodraeth ac mae'r gweinidog addysg newydd, Jeremy Miles, yn dweud bod y mesurau mewn ysgolion yn cael eu hadolygu'n gyson.

Effaith amrywiolyn India

Dywedodd Dr Jones hefyd bod Cymru'n "barod i fynd" pe bai'r Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio, y JCVI, yn rhoi s锚l bendith i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael eu brechu.

Mae David Evans, ysgrifennydd undeb addysg NEU Cymru yn dweud ei bod hi'n "rhy gynnar" i newid canllawiau Covid mewn ysgolion oherwydd y pryderon presennol ynghylch amrywiolyn India.

Dywedodd nad oedd y boblogaeth ifanc wedi cael eu brechu a'u bod yn "symud o amgylch mwy ac yn cwrdd 芒 mwy o bobl".

"Mae ychydig wythnosau ar 么l tan ddiwedd y tymor, fe ddylen ddefnyddio'r amser hwn i ymchwilio'n llawnach i'r amrywiolyn," ychwanegodd Mr Evans.

Dywedodd bod yr undeb yn dal i fod eisiau gweld disgyblion yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth tan ddiwedd y tymor ac yna asesu'r sefyllfa cyn iddyn nhw ddechrau yn 么l yn yr ysgol fis Medi.

Pynciau cysylltiedig