91热爆

Ystyried llacio'r rheol ar wisgo mwgwd yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pupils wearing masksFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod yna drafodaeth ar hyn o bryd a ddylid gwisgo masg mewn ysgolion

Dywed meddyg blaenllaw bod Cymru yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd ar y rheolau sy'n gorfodi disgyblion i wisgo mygydau yn yr ysgol.

Yn Lloegr fydd dim rhaid gwisgo mwgwd yn yr ysgol o 17 Mai ymlaen - mae'r rheol bresennol yng Nghymru yn nodi bod angen gwisgo gorchudd wyneb ymhob rhan o'r ysgol gan gynnwys yr ystafell ddosbarth.

Dywed Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y Gr诺p Cynghori Technegol yn ystyried cael gwared 芒'r rheolau.

Wrth siarad ar Radio Wales fore Mawrth dywedodd bod y mater yn cael ei ystyried o ddifri a bod arbenigwyr iechyd gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu tystiolaeth ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Dr Shankar y bydd y mater yn cael ei drafod yn ofalus ac yn rhoi ystyriaeth ddwys i'r rhai na sydd wedi eu brechu.

"Dyw pobl oed ysgol ddim eto wedi cael eu brechu ac felly fe allan gael neu ledaenu'r coronafeirws - rhaid i ni ystyried pob mesur posib er mwyn diogelu grwpiau penodol o bobl.

"Mae'n dulliau gofalus o ddelio 芒 sefyllfaoedd hyd yma yn golygu bod nifer yr achosion yn isel ac wedi aros felly... rhaid i ni fod yn wyliadwrus rhag amrywiolion newydd."

Y llacio nesaf

Ddydd Llun, 17 Mai mae disgwyl i

  • dafarndai, bwytai a chaffis gael gweini bwyd a diod y tu mewn;

  • 蝉颈苍别尘芒耻, theatrau ac amgueddfeydd ailagor;

  • ganolfannau chwarae meddal i blant ailagor;

  • ddigwyddiadau wedi'u trefnu fel priodasau gael hyd at 30 o bobl y tu mewn a 50 y tu allan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywed yr Athro Eithne Hughes, cyfarwyddwr Undeb ASCL Cymru, ei bod hi'n anodd i ddysgwyr ifanc gyfathrebu tra'n gwisgo mwgwd.

"Dyw'r busnes o gyfathrebu ddim yn ymwneud 芒 chlywed rhywun yn unig - mae gweld ceg ac ystum yr wyneb hefyd yn bwysig.

"Ond fe fydd rhaid cael seiliau gwyddonol cryf i gefnogi'r ddadl dros symud yr orfodaeth o wisgo gorchudd wyneb o fewn yr ysgol. Dwi'n meddwl bod y rheol yn perswadio pobl fod yr ysgol yn ddiogel."

Mae hi wedi bod yn ofynnol i ddisgyblion wisgo mygydau ymhob rhan o'r ysgol heblaw'r ystafell ddosbarth ers mis Tachwedd ond wedi'r Nadolig fe gafodd y rheolau eu hymestyn i gynnwys yr ystafell ddosbarth hefyd.

Bydd llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau eu hadolygiad diweddaraf ddydd Gwener.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna farn gymysg ymhlith pobl ifanc ynghylch gwisgo masgiau yn y dosbarth, medd Sally Holland

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru ei bod "wedi bod yn gwrando ar farn pobl ifanc ar y mater yma" a rhannu eu safbwyntiau gyda Llywodraeth Cymru.

Yn 么l Sally Holland, "mae rhai wedi dweud eu bod yn teimlo'n saffach yn gwisgo masg yn y dosbarth, ac eraill yn dweud eu bod yn ei dderbyn oherwydd maen nhw'n awyddus i fod yn yr ysgol, hyd yn oed gyda chyfyngiadau".

Ond mae "llawer yn fwy wedi codi trafferthion maen nhw wedi eu profi" gan gynnwys "anesmwythder, trafferthion cyfathrebu, problemau gyda'r croen a sbectolau'n stemio i fyny".

Ychwanegodd ei bod wedi "erfyn" ar y llywodraeth yn yr wythnosau diwethaf "i gadw'r angen am orchuddion wyneb yn y dosbarth i'r amser lleiaf posib", ac i barhau i adolygu'r cam a gwrando ar brofiadau pobl ifanc.

Pynciau cysylltiedig