Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn mynd i Lafur a Phlaid Cymru

Mae Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru, a Jeff Cuthbert ac Alun Michael o'r Blaid Lafur, wedi'u hailethol yn Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd - ar gyfer ardaloedd Dyfed-Powys, Gwent a De Cymru.

Andy Dunbobbin o'r Blaid Lafur yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Gogledd Cymru - mae e'n olynu Arfon Jones o Blaid Cymru wedi iddo fe ymddeol ym mis Ionawr.

Wedi'r ail gyfrif yn y Gogledd fe gafodd Andy Dunbobbin o Sir y Fflint 98,034 o bleidleisiau, a Pat Astbury o'r Ceidwadwyr 90,149.

Y Ceidwadwr oedd ar y blaen yn y cyfrif cyntaf wedi iddi gael 75,472 o bleidleisiau a Mr Dunbobbin yn ail (69,459). Roedd ymgeisydd Plaid Cymru, Ann Griffith yn drydydd gyda 67,673 o bleidleisiau.

Jon Burns o'r Ceidwadwyr oedd ar y blaen yn ardal Dyfed-Powys yn y cyfrif cyntaf ond wedi'r ail gyfrif - lle mae'r gwaith o gyfrif ail bleidlais pawb oedd ddim yn y ddau uchaf yn digwydd - fe gafodd Mr Llywelyn 94,488 o bleidleisiau a Mr Burns 77,408.

Yng Ngwent wedi'r ail gyfrif fe gafodd Jeff Cuthbert 92,616 o bleidleisiau a Hannah Jarvis o'r Ceidwadwyr 60,536.

Yn Ne Cymru fe gafodd Alun Michael 225,463 o bleidleisiau wedi'r ail gyfrif ac yn ail iddo yr oedd Steve Gallagher o'r Ceidwadwyr (127,844).

Ddydd Iau, ynghyd 芒 dewis cynrychiolwyr yn Senedd Cymru, bu etholwyr yn pleidleisio ar gyfer eu dewis o gomisiynydd.

Mae etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn digwydd bob pedair blynedd. Roedd yr etholiad i fod i ddigwydd yn 2020 ond oherwydd Covid-19 cafodd ei ohirio tan 6 Mai 2021.

Dyletswyddau

Er mai llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am blismona Cymru nid oes gan San Steffan reolaeth lwyr.

Traean o gyllid lluoedd heddlu Cymru ar gyfer 2021-22 sy'n dod o'r Swyddfa Gartref, gyda'r gweddill yn dod o'r pwrs cyhoeddus Cymreig.

Mewn sawl ardal mae dros hanner cyllid yr heddlu wedi cael ei bennu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd lleol wrth iddyn nhw osod y gyllideb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Comisiynwyr hefyd yn cael cyfrannu at y drafodaeth ar faint o dreth gyngor y dylid ei godi gan fod cyfran helaeth ohoni yn mynd tuag at ariannu'r heddlu.

Eleni, er enghraifft, mae'r dreth gyngor yn talu am 47% o gyllideb yr heddlu yng Nghymru. Daw'r gweddill, 18.6%, gan Lywodraeth Cymru.

Pam bod yna Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd?

Cafodd y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd eu cyflwyno gan Lywodraeth San Steffan yn 2012, gan ddisodli'r awdurdodau heddlu wedi galwadau bod angen i'r broses o oruchwylio plismona fod yn fwy democrataidd.

Eu prif waith yw sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn gweithredu'n effeithiol.

Mae'r llywodraeth yn mynnu nad nhw sy'n arwain lluoedd yr heddlu - yn ogystal 芒 sicrhau effeithiolrwydd maent yn ymateb i anghenion y cyhoedd.

Nhw sy'n gyfrifol am benodi a diswyddo'r prif gwnstabl ac maen nhw'n sicrhau bod y prif gwnstabliaid yn gyfrifol am berfformiad eu staff ac yn atebol i'r cyhoedd.

Maent hefyd yn arolygu diogelwch cymunedol, gostwng troseddu, sicrhau gwerth am arian ac yn nodi strategaeth y llu a blaenoriaethau plismona.