Ymgeiswyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd etholiadau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Gogledd Cymru, ar 6 Mai 2021.
Mae'r comisiynwyr yn cael eu hethol er mwyn sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn gweithredu'n effeithiol.
Fe wnaethon nhw ddisodli awdurdodau'r heddlu yn 2012 wedi galwadau bod angen i'r broses o oruchwylio plismona fod yn fwy democrataidd.
Mae'r etholiadau fod i gael eu cynnal bob pedair blynedd ond bu'n rhaid eu gohirio yn 2020 oherwydd y pandemig.
Dyma restr yr ymgeiswyr ar gyfer Gogledd Cymru - maent wedi eu nodi yn nhrefn y wyddor o ran cyfenw:
Pat Astbury - Ceidwadwr
Andy Dunbobbin - Llafur
Ann Griffith - Plaid Cymru
Lisa Wilkins - Democrat Rhyddfrydol
Mark Young - Annibynnol