Canllaw syml i Etholiad Senedd Cymru 2021
- Cyhoeddwyd
Bydd cannoedd ar filoedd o bobl ar draws Cymru yn mynd ati i fwrw pleidlais yn etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai eleni.
Bydd yr etholiad yn penderfynu pwy sy'n ffurfio llywodraeth nesaf Cymru - ac felly pwy fydd yn gyfrifol am redeg nifer o wasanaethau pwysig sy'n effeithio ar fywyd pob dydd pobl Cymru.
Beth yw Llywodraeth Cymru?
Cafodd Llywodraeth Cymru ei chreu yn 1999, gyda'r bwriad o roi mwy o bwerau i bobl Cymru dros faterion allweddol - gelwir hyn yn datganoli.
Mae'r llywodraeth nawr yn gyfrifol am iechyd, addysg, llywodraeth leol, trafnidiaeth, cynllunio, datblygiad economaidd, gwasanaethau cymdeithasol, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, amaeth a materion gwledig.
Mae'n gyfrifol am yr ymateb i'r pandemig Covid-19 yng Nghymru, ac mae hefyd yn rheoli rhai trethi.
Mae Aelodau o'r Senedd (AS) yn pleidleisio ar gyfreithiau, yn pasio cynlluniau Llywodraeth Cymru i wario arian ar wasanaethau cyhoeddus a chadw llygaid ar beth mae gweinidogion yn ei wneud.
Yng Nghaerdydd y mae'r Senedd wedi'i leoli ac mae'n gweithredu ar wah芒n i D欧'r Cyffredin yn Llundain, sy'n gwneud cyfreithiau ar gyfer y DU i gyd.
Sut mae'r etholiad yn gweithio?
Mae yna 60 AS, ac mae 40 o'r rhain yn cynrychioli etholaethau unigol (ardaloedd) yng Nghymru.
Mae 20 arall yn cynrychioli pum rhanbarth Cymru:
Gorllewin De Cymru
Canol De Cymru
Dwyrain De Cymru
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gogledd Cymru
Mae gan bob rhanbarth bedwar AS.
Mae etholwyr yn cael dwy bleidlais - un ar gyfer ethol person i fod yn AS ar gyfer ei etholaeth, a'r llall er mwyn ethol plaid ar gyfer ei ranbarth.
Sut fydd pleidleisio'n gweithio gyda coronafeirws?
Bydd y system bleidleisio'n wahanol i'r arfer eleni, gyda sgriniau plastig ac eli golchi dwylo.
Bydd gofyn i bobl gymryd pen neu bensil ei hunan er mwyn ysgrifennu ar y papur pleidleisio.
Mae'r rheiny sy'n fregus i coronafeirws neu sydd 芒 phryderon eraill yn gallu gwneud cais am bleidlais trwy'r post.
Gallwch hefyd enwebu rhywun arall i bleidleisio yn eich lle (pleidleisio trwy ddirprwy). Bydd modd gwneud hyn ar fyr rybudd tan 17:00 ar ddiwrnod yr etholiad os oes angen i bobl hunan-ynysu.
Pwy sy'n gallu pleidleisio?
Mae yna tua 2.3 miliwn o bleidleiswyr cymwys yng Nghymru.
O eleni, gall unrhyw un dros 16 oed bleidleisio, yn ogystal 芒 thua 33,000 o bobl sydd 芒 dinasyddiaeth tramor oedd heb yr hawl i bleidleisio'n flaenorol.
Rhaid i etholwyr fod yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru i bleidleisio. Gallant fod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'r Gymanwlad neu yn ddinesydd o dramor sydd 芒'r hawl i fyw yn y DU.
Gallan nhw gofrestru i bleidleisio ar-lein, a rhaid iddyn nhw wneud erbyn 19 Ebrill.
Pryd fyddech yn gwybod y canlyniadau?
Bydd cyfri'r pleidleisiau'n dechrau drannoeth - nid dros nos - oherwydd y pandemig.
Mewn etholaethau, mae'r ymgeisydd gyda'r nifer uchaf o bleidleisiau'n ennill. Mae seddi rhanbarthol yn cael eu dewis trwy system sy'n anelu i ethol ASau yn 么l faint o bleidleisiau mae eu plaid wedi ennill yn y rhanbarth.
Unwaith mae'r canlyniadau mewn, y cwestiwn nesaf yw pwy sy'n rhedeg y llywodraeth?
Os yw plaid yn ennill mwy na 30 sedd, byddan nhw'n gallu ffurfio llywodraeth heb gymorth pleidiau eraill.
Os nad oes plaid yn ennill gyda 30 sedd, bydd y blaid fwyaf yn ceisio llywodraethu beth bynnag. Ond efallai bydd angen cymorth gan eraill - naill ai trwy gytundebau achlysurol neu trwy drefniad mwy ffurfiol, sef clymblaid.
Pwy sydd mewn p诺er ar hyn o bryd?
Y prif weinidog presennol yw Mark Drakeford - arweinydd y blaid Lafur Cymreig ers 2018.
Gyda 29 sedd, Llafur oedd y blaid fwyaf yn yr etholiad diwethaf yn 2016, ond gwnaethon nhw ddim ennill digon o seddi i lywodraethu heb gymorth gwleidyddion o'r gwrthbleidiau.
Mae ganddyn nhw gefnogaeth AS Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol a chyn-wleidydd Seneddol Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - mae'r ddau yn weinidogion.
Pwy yw'r gwrthbleidiau?
Yr ymgeiswyr eraill am brif weinidog yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Mae pleidiau llai hefyd yn edrych am bleidleisiau - yn cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, UKIP, Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, Reform, Propel a Phlaid Werdd Cymru.
Er bod rhaid o'r pleidiau llai yn annhebygol o ffurfio llywodraeth, gallai rhai cael eu cynnwys mewn clymblaid os nad yw un o'r pleidiau mwy yn ennill dros 30 o seddi.
Beth yw'r prif bynciau o dan sylw?
Bydd nifer yn gweld canlyniad etholiad eleni fel beirniadaeth o sut mae pobl yn teimlo am ymateb Llywodraeth Cymru tuag at Covid-19.
Mae Mark Drakeford wedi bod mewn rheolaeth o gyfnod clo Cymru, yn cymryd penderfyniadau ar ba rannau o'r economi i agor, neu gadw ar gau, ac ar bwy all gwrdd yn gyfreithiol.
Bydd pleidiau'n gwneud addewidion am sut fyddan nhw'n rhedeg y GIG a gwasanaethau eraill mawr fel addysg.
Fe all benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio adeiladu ffordd liniaru'r M4 gael ei godi yn ystod yr ymgyrch etholiadol, yn ogystal 芒 beth fyddai pleidiau'n gwneud am drethi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021