91热爆

Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd i ymddeol

  • Cyhoeddwyd
Arfon JonesFfynhonnell y llun, Ceidiog PR
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Arfon Jones ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn 2016

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn ymgeisio am ail dymor yn y swydd yn yr etholiad sydd i fod i ddigwydd ym mis Mai.

Bydd Arfon Jones yn ymddeol ar ddiwedd ei dymor, bum mlynedd wedi iddo sicrhau mwyafrif o dros 25,000 fel ymgeisydd Plaid Cymru wrth gael ei ethol yn 2016.

Dywedodd y cyn-arolygydd heddlu ei fod wedi dechrau ystyried camu'n 么l cyn i etholiadau'r llynedd orfod gael eu gohirio oherwydd y pandemig.

"Rwyf wedi cyflawni llawer yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac mae'n mynd i fod yn anoddach gwneud gwahaniaeth y tro nesaf oherwydd y pandemig, Brexit a'r ffaith bod y tymor swydd wedi'i gwtogi i dair blynedd," meddai.

Un o adegau mwyaf balch ei fywyd, meddai, oedd cael ei ethol i arwain y llu y bu'n "gweithio iddo am 30 mlynedd, mewn iwnifform ac fel ditectif".

Ychwanegodd mai'r "prif reswm" dros ymddeol yw'r ffaith y byddai wedi "gweithio am fwy na 46 mlynedd erbyn yr etholiad nesaf".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Arfon Jones ei fod yn falch i'r llu sefydlu Uned Caethwasiaeth Fodern

Yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth mae Mr Jones yn dweud iddo ganolbwyntio ar fynd i'r afael 芒 thrais domestig, a buddsoddi mewn technoleg wrth i droseddau ar-lein gynyddu.

Cyflwynodd gynllun i bob heddwas y llu wisgo camer芒u fideo er mwyn casglu tystiolaeth, a Heddlu'r Gogledd oedd y llu cyntaf drwy'r DU i benodi swyddog penodol i gefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.

Mae hefyd wedi bod yn llais blaenllaw dros ddiwygio deddfau cyffuriau, gan lansio sawl cynllun sy'n ceisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Mr Jones wedi gwneud cyfraniad "aruthrol" yn y swydd, gan gynnwys "comisiynu gwasanaethau gwerth dros 拢2m i gefnogi dioddefwyr troseddau".

Ychwanegodd: "Mae cyflawniadau sylweddol Arfon yn y swydd yn dyst i'w ymrwymiad i'r etholwyr y mae'n eu gwasanaethu."