Ymgyrch Cwpan y Byd 2022: Gwlad Belg 3-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Am gyfnod a'r ddechrau'r g锚m roedd Cymru unwaith eto yn bygwth sioc yn y byd p锚l-droed ar 么l mynd ar y blaen yn erbyn Gwlad Belg, y t卯m sydd ar frig y detholion y byd.
Hon oedd eu g锚m gyntaf yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.
Aeth Cymru ar y blaen o'u hymosodiad cyntaf, gyda Connor Roberts a Gareth Bale yn cyfuno cyn rhyddhau Harry Wilson i sgorio ar 么l symudiad bendigedig.
Ar 么l hawlio'r meddiant am gyfnodau hir, llwyddodd y t卯m cartref i ddod yn gyfartal gydag ergyd Kevin De Bruyne yn curo Ward.
Aeth Gwlad Belg ar y blaen wrth i Connor Roberts lithro gan adael Thorgan Hazard yn rhydd i benio i gefn y rhwyd.
Er i Romelu Lukaku ychwanegu cic o'r smotyn, fe wnaeth Cymru ddangos mwy o awydd i ymosod yn yr ail hanner, a bydd Robert Page, sydd yng ngofal y t卯m dros dro, yn hapus gyda'r perfformiad os nad y canlyniad.
Fe fydd Cymru nawr yn paratoi ar gyfer g锚m gartref ddydd Mawrth nesaf yn erbyn y Weriniaeth Siec wnaeth sicrhau buddugoliaeth 6-2 oddi cartref yn erbyn Estonia yng Ngr诺p E.
Mwy na thebyg bydd yn rhaid i Gymru fod heb Joe Allen a fu'n rhaid gadael y cae gydag anaf ar 么l dim ond saith munud.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021