91Èȱ¬

Joe Allen yn dychwelyd i garfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey a Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Ramsey (Chwith) wedi'i ei gynnwys yn y garfan er fod amheuaeth am ei ffitrwydd a bydd Joe Allen yn dychwelyd wedi cyfnod hir allan gydag anaf

Mae rheolwr dros dro Cymru, Robert Page wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y tair gêm ryngwladol nesaf gyda Joe Allen yn dychwelyd wedi absenoldeb o dros flwyddyn.

Yn ogystal â Joe Allen mae'r chwaraewr canol cae Aaron Ramsey hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan, er bod amheuaeth am ei ffitrwydd.

Bydd Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022 gyda gêm oddi cartref yng Ngwlad Belg ar 24 Mawrth.

Tridiau'n ddiweddarach bydden nhw'n wynebu Mecsico mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd cyn chwarae gartref yn erbyn y Weriniaeth Siec ar 30 Mawrth yn ei hail gêm ragbrofol.

'Cadw golwg' ar Ramsey

Robert Page fydd yn arwain Cymru yn ystod y dair gêm, ar ôl i gyfnod mechnïaeth Ryan Giggs gael ei ymestyn ar ôl iddo wadu cyhuddiad o ymosod ar ei bartner ym mis Tachwedd.

Ond, pwysleisiodd Page fod Ryan Giggs wedi bod yn "ran allweddol" o ddewis y garfan.

"Bydd hi'n union fel mis Tachwedd, gyda'r staff i gyd yn trafod y tîm. Does dim byd wedi newid o'r safbwynt yna, fydd popeth yr un fath," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf absenoldeb Giggs, mae wedi bod yn ran allweddol o ddewis y garfan meddai Robert Page

Wrth drafod ychwanegiad Aaron Ramsey i'r garfan, er gwaetha'r ffaith ei fod wedi cael ei adael allan o garfan Juventus dros y penwythnos oherwydd anaf, dywedodd Page: "Rydym yn cadw golwg ar y sefyllfa.

"Fe hoffwn ei gael yma yn rhan o'r garfan er mwyn i ni allu ei asesu ein hunain.

"Ar hyn o bryd mae'n rhan o'r garfan ac fe hoffwn ei gael yma ddydd Sul a chael golwg iawn arno. Os bydd unrhyw beth yn newid cyn hynny, yna mae hynny allan o'n rheolaeth," meddai.

Mae Chris Gunter hefyd wedi'i gynnwys yn y garfan gyda'r cefnwr dde yn gobeithio chwarae yn o leiaf un o'r gemau a sicrhau ei 100fed cap i'w wlad.

Ond mae'r asgellwr David Brooks yn absennol yn dilyn anaf.

Carfan Cymru'n llawn

Golwyr:

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, Tom King:

Amddiffynwyr:

Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Tom Lockyer, Joe Rodon, Chris Mepham, James Lawrence, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango.

Canol Cae:

Joe Allen, Aaron Ramsey, Jonny Williams, Harry Wilson, Daniel James, Matthew Smith, Joe Morrell, Dylan Levitt, Brennan Johnson, Josh Sheehan.

Ymosodwyr:

Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tom Lawrence, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Rabbi Matondo.