91Èȱ¬

£30m yn rhagor i gefnogi diwylliant amrywiol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Theatr Donald Gordon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Theatr Donald Gordon - prif lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, fel theatrau eraill, wedi bod yn wag ers Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30m yn rhagor i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru yn ystod y pandemig.

Mae'r gronfa yn cael ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.

Yr wythnos ddiwethaf roedd yna alw ar i'r cronfeydd cymorth barhau i gefnogi gweithwyr llawrydd ynghyd â chanolfannau celfyddydol.

Mae'r arian yma yn ychwanegol i'r Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yn ystod haf 2020.

Fe wnaeth y gronfa honno a oedd yn werth £63.3m gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn cydnabod heriau digynsail y pandemig ar y celfyddydau," medd y Dirprwy Weinidog Diwylliant

Fel rhan o'r gronfa mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gweinyddu £18m o gyllid i gefnogi 170 o sefydliadau - yn eu plith mae theatrau ac orielau celf, ac amcangyfrifir bod dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi.

Mae'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd wedi rhoi £18m o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad ydynt wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig, ac mae rhan arall y gronfa wedi rhoi £27m i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth.

'Cydnabod yr heriau'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.

"Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni aros yn amyneddgar."

Bydd yr arian newydd yn agor ar gyfer ceisiadau o 6 Ebrill.