Galw am ganiatâd i ailagor theatrau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Nid yw Llywodraeth Cymru yn trin theatrau yn deg, yn ôl y sector.
Ers y clo byr, mae sinemâu, neuaddau bingo, casinos ac amgueddfeydd yn gallu ailagor - gyda chyfyngiadau coronafeirws ar waith - ond nid yw theatrau ar y rhestr o leoliadau.
Yn ôl Creu Cymru, grŵp sy'n cynrychioli theatrau yng Nghymru, nid oes cyfiawnhad am y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gydweithio gyda'r sector i ailagor "pan fydd yr amser yn iawn".
Mae Creu Cymru yn cynrychioli'r theatrau proffesiynol a'r canolfannau celfyddydol yng Nghymru, gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, Clwyd Theatr Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Maen nhw'n galw am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog i drafod a phenderfynu ar ffordd ymlaen ac amserlen ar gyfer ailagor.
Yn ôl Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, nid yw'r sector yn cael ei drin yn deg.
"Fe allwn i roi bore coffi ymlaen mewn neuadd bentref i 15 o bobl ond cawn ni ddim rhoi perfformiad mewn theatr gydag un person ar y llwyfan a phedwar ar ddeg o bobl yn y gynulleidfa," meddai. "Ble mae'r synnwyr yn hynny?
"Rydyn ni jyst yn gofyn i'r llywodraeth fod yn rhesymol er mwyn gwneud lan am hyn. Nid ydym yn teimlo bod Llywodraeth Cymru yn bod yn deg."
Dywedodd Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman yng Nghaerdydd, mi all y sector gynnal cynyrchiadau yn ddiogel.
"Rydyn ni'n gwybod nad ydyn ni'n mynd i allu ailagor yn y ffordd roedden ni'n gweithredu ar ddechrau'r flwyddyn hon. Hoffem allu dechrau cynnal digwyddiadau prawf.
"Gallem ddod â chynulleidfa fach i mewn i'r awditoriwm yma, a all fel arfer eistedd 452 o bobl. Ond mi allwn ni ddod â 40 neu 50 o bobl i mewn i dreialu digwyddiad prawf gyda'r holl fesurau diogelwch hynny ar waith. Mi fyddai hynny'n ddechrau ar y siwrnai i ailagor."
"Rydyn ni'n sector cyfrifol"
Dros yr haf cynhaliwyd digwyddiadau prawf yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae'r digwyddiadau hynny wedi cael eu stopio oherwydd y clo byr.
Roedd y digwyddiadau, a gynhaliwyd y tu allan i'r theatr, yn llwyddiant yn ôl Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd.
"Fe wnaethon ni groesawu 2,000 o bobl dros yr haf," meddai. "Llwyddon ni i wneud hynny mewn ffordd ddiogel.
"Roedd gennym systemau ar waith a fyddai'n cael eu mabwysiadu'n llwyr yn ein hadeiladau.
"Roedd yn bendant yn llwyddiant o ran gwneud i'r gynulleidfa deimlo'n ddiogel, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud yr un peth y tu mewn i'r theatr yn fuan iawn.
"Rydyn ni'n sector cyfrifol ac rydyn ni wedi arfer â phobl sy'n cadw'n ddiogel - p'un a yw'r bobl ifanc hynny'n dod i'n hadeiladau, cynulleidfaoedd a pherfformwyr.
"Dyma ein gwaith ni. Byddem wrth ein bodd petai'r llywodraeth yn ymddiried ynom i gyflawni hynny yn y dyfodol."
'Gwerth diwylliannol' theatrau'n bwysig
Hyd yn hyn mae'r sector celfyddydau yn ei gyfanrwydd, sy'n cynnwys theatrau a chanolfannau celf, wedi derbyn £30m gan Gronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Arwel Gruffydd, er bod y sector yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae'r sector yn cynnig rhywbeth mwy nag adloniant yn unig - mae ganddo werth diwylliannol hefyd.
"Os ydych chi'n meddwl beth mae theatr yn ei roi i bobl," meddai. "Y llawenydd y mae'n dod i bobol, yr ymdeimlad o berthyn, i gael sgyrsiau am faterion o bwys ar y llwyfan ac yn y cyntedd.
"Dychmygwch pa mor werthfawr fyddai hynny yn yr amseroedd yma o bob amser. Rydym yn gofyn i'r Llywodraeth ganiatáu inni wneud hynny gam wrth gam."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'r sector a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth tuag at ailagor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020