91ȱ

Penodi Gemma Grainger i arwain tîm pêl-droed merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gemma GraingerFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Grainger wedi cael cytundeb pedair blynedd

Mae Gemma Grainger wedi cael ei phenodi yn rheolwr newydd tîm pêl-droed merched Cymru am bedair blynedd.

Mae Grainger, sy'n 38 oed, wedi datblygu timau yn Lloegr am 11 mlynedd a hi fydd wrth y llyw yn ystod dwy gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Canada a Denmarc ym mis Ebrill.

Mae Grainger yn olynu Jayne Ludlow a adawodd ym mis Ionawr wedi iddi fod yn gyfrifol am dîm Cymru am saith mlynedd.

Yn dilyn ei phenodiad dywedodd Grainger: "Rwy'n hynod o falch i fod yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at yr her."

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i'r cyn-reolwr Jayne Ludlow, bydd Gemma Grainger yn canolbwyntio ar y tîm hŷn yn unig

Yn wahanol i Jayne Ludlow, fe fydd Grainger ond yn gyfrifol am y chwaraewyr hŷn - fydd hi ddim yn gorfod cadw llygad ar y timau iau.

Deallir bod chwaraewyr Cymru yn croesawu'r penodiad wedi'r siom fod Ludlow yn gadael.

Prif nod Grainger fydd ceisio cael Cymru i chwarae mewn rowndiau terfynol pencampwriaethau mawr - mae hi eisoes wedi cael cryn lwyddiant gan weithio gyda thîm dan-20 Lloegr yng Nghwpan y Byd 2014, a'r tîm dan-17 yn 2016.

Mae hi wedi rheoli dros 90 o gemau rhyngwladol, ac roedd yn rhan o dîm hyfforddi Lloegr yng ngemau Euro 2017 pan wnaethon nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

'Cyfle newydd'

"Mae fy holl yrfa wedi bod yn gwbl fwriadol a rwy' wastad wedi anelu i fynd â thîm hŷn i un o'r pencampwriaethau mawr," ychwanegodd.

"Bydd hwn yn gyfle newydd i fi a chwaraewyr Cymru - cyfle lle gallwn adeiladu ar hanes pêl-droed merched yng Nghymru."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 91ȱ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 91ȱ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Chwaraeon Radio Cymru

Dywedodd Pennaeth ê-DZ Merched CBDC, Lowri Roberts: "Rydym ni wedi tyfu'r gêm merched yng Nghymru dros y blynyddoedd ac fe fydd Gemma yn parhau'r broses hynny.

"Mae'n dda gweld ymrwymiad y Gymdeithas i gêm y merched a rhoi'r cyfle gorau i gyrraedd prif bencampwriaeth am y tro cyntaf. Fe fydd hynny yn rhan fawr o'n nod i dyfu'r gêm yng Nghymru."

Daw penodiad Grainger ar adeg o ansicrwydd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd tymor y prif weithredwr Jonathan Ford yn dod i ben ddiwedd Mawrth wedi pleidlais o ddiffyg hyder gan gyngor y Gymdeithas.

Ddydd Iau cyhoeddwyd bod Angela van den Bogerd, un o'r bobl a fu'n gyfrifol am benodi Grainger, hefyd yn gadael.

Yn ogystal dyw rheolwr tîm y dynion, Ryan Giggs, ddim wrth y llyw ar hyn o bryd gan ei fod ar gyfnod mechnïaeth tan ddiwedd Mai wedi honiad o ymosod.