91热爆

Van den Bogerd yn gadael CBDC yn sgil ymadawiad Ford

  • Cyhoeddwyd
Angela van den Bogerd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Angela van den Bogerd adael ei swydd gyda'r Swyddfa Bost y llynedd

Mae wedi dod i'r amlwg fod Angela van den Bogerd hefyd wedi gadael Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn sgil ymadawiad y prif weithredwr Jonathan Ford.

Mae 91热爆 Cymru yn deall nad ydy'r gymdeithas wedi ymestyn cyfnod prawf van den Bogerd - gafodd ei phenodi yn 'bennaeth pobl' CBDC ar ddiwedd 2020.

Doedd y gymdeithas ddim eisiau gwneud sylw yngl欧n 芒'r mater ond maen nhw wedi cadarnhau ei bod wedi gadael ei swydd.

Roedd van den Bogerd yn arfer bod yn un o gyfarwyddwyr Swyddfa'r Post.

Cafodd ei beirniadu gan farnwr am geisio camarwain llys barn mewn achos dadleuol ble cafodd sawl is-bostfeistr eu cyhuddo ar gam o ddwyn arian gan eu cyflogwyr.

Roedd penodiad van den Bogerd yn un o'r materion wnaeth arwain at bleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Ford gafodd ei phasio ar 22 Chwefror.

Bydd Ford a van den Bogerd yn gadael eu swyddi yn swyddogol ar 31 Mawrth, ond mae 91热爆 Cymru yn deall eu bod eisoes wedi gadael y gymdeithas.