91热爆

'Dwi'n poeni fydd 'na ddim clwb i gefnogi yn y dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'I fi, mae dyfodol p锚l-droed Cymru yn y fantol'

"Dwi isio i bawb sylwi pa mor ddifrifol ydi'r sefyllfa, a faint o beryg mae ein clwb ni a llawer o glybiau eraill ynddo fo ar y funud.

"Yn syml, i fi, mae dyfodol p锚l-droed Cymru yn y fantol."

I Osian, 17 oed, sy'n chwarae i academi Caernarfon ac yn gefnogwr brwd o'r clwb, mae effaith hir dymor y pandemig eisoes yn chwarae ar ei feddwl.

Ac wrth alw am fwy o gefnogaeth i glybiau lleol er mwyn dod drwy'r cyfnod, mae stori Osian wedi dod i'r brig drwy Gymru yng nghystadleuaeth Gohebydd Ifanc y 91热爆 eleni.

'Dwi'n drist a siomedig'

Mae'r cyfyngiadau Covid wedi golygu nad yw'r rhan fwyaf o glybiau Cymru hyd yn oed wedi cael ymarfer am lawer o'r flwyddyn ddiwethaf, heb s么n am chwarae.

Ac i'r prin rai hynny - fel Caernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru - sydd wedi cael parhau am gyfnodau, mae'r diffyg cefnogwyr yn golygu nad oes digon o arian yn dod i mewn i dalu am y gost o gynnal gemau.

Yn 么l Osian, mae dilyn hynt a helynt eu clwb lleol yn rhywbeth sy'n bwysig i filoedd o bobl ar draws Cymru, ac wedi bod yn fwlch mawr yn eu bywydau dros y misoedd diwethaf.

"Pan mae'r t卯m yn ennill mae'n meddwl bob dim i ni, a phan mae'r t卯m yn colli mae'n gallu sbwylio diwrnod ni," meddai.

"'Dan ni'm efo dim byd i 'neud ar benwythnosau dim mwy. 'Dan ni'n gwylio rhai gemau ar y teledu, ond dydi o ddim cweit yr un peth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Osian yn rhan o academi Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caernarfon

"'Dan ni'n methu'r teimlad o fod mewn stadiwm yn gwylio'r clwb 'dan ni'n caru yn chwarae, ac mae o'n anodd iawn."

Teimlodd Osian y rhwystredigaeth hwnnw'n fwy yn ystod yr haf a'r hydref llynedd, pan wnaeth cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar ddigwyddiadau chwaraeon barhau er i reolau eraill gael eu llacio.

"Dwi'n drist ofnadwy ac yn hynod o siomedig," meddai.

"Dwi'n mynd yn 么l i fis Medi pan oedd y sinem芒u ar agor ac roedd 'na lawer o bobl yn cael gwylio ffilm y tu mewn, ond doedden ni fel cefnogwyr p锚l-droed yn dal ddim yn cael cefnogi ein t卯m y tu allan yn yr awyr agored efo digon o le i wasgaru allan."

Gadael y gamp?

Yn ogystal 芒 phryderu y bydd diddordeb rhai cefnogwyr yn pylu wrth iddyn nhw barhau i fethu mynd i wylio gemau, mae Osian hefyd yn pryderu am yr effaith gaiff y pandemig ar chwaraewyr eraill yn eu harddegau.

Heb sesiynau ymarfer cyson, meddai, mae lefelau ffitrwydd llawer o'r athletwyr ifanc yn dirywio - a'u brwdfrydedd am y gamp mewn perygl o bylu hefyd.

"Mae'r cyfnod clo wedi cael effaith enfawr arna ni," cyfaddefodd Osian.

"'Dan ni heb gael gweld ein gilydd ac yn fy marn i dyna'r peth pwysicaf, cael hwyl, oherwydd dyna be' mae p锚l-droed am.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pryder Osian yw y gallai rhai o'i gyfoedion golli eu brwdfrydedd am y gamp

"Yn gyffredinol mae p锚l-droed yn ffordd wych i ni fel pobl ifanc i allu delio gyda straen a phwysau gwaith neu ysgol, a gallu disgyn ar b锚l-droed pan mae pethau'n mynd yn anodd.

"Ond wrth gwrs, ers dechrau Covid, does neb wedi cael y pleser o chwarae p锚l-droed na mynd i wylio p锚l-droed a dwi'n meddwl bod o wedi brifo llawer o bobl yn ofnadwy.

"Dwi'n ofni bydd 'na lawer o chwaraewyr ifanc yn dewis stopio chwarae'r g锚m yn dilyn y cyfnod clo oherwydd yr effaith mae Covid wedi'i gael ar b锚l-droed yn gyffredinol."

'Normalrwydd yn bell i ffwrdd'

Er bod gemau Uwch Gynghrair Cymru wedi ailddechrau, does dim awgrym eto gan Lywodraeth Cymru pryd y bydd cefnogwyr yn cael mynd yn 么l i'r meysydd chwarae.

Dydyn nhw ddim chwaith wedi dweud pryd y caiff ymarfer corff yn yr awyr agored ddigwydd eto i grwpiau mawr o oedolion, ond bydd plant dan 18 yn cael dychwelyd i ymarfer erbyn diwedd y mis.

"Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Gwener y byddai gweithgareddau awyr agored i blant yn gallu ailddechrau o 27 Mawrth os yw'r amodau iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Byddwn yn edrych i lacio cyfyngiadau yn rhagor pan mae amodau'n caniat谩u hynny.

"Mae Chwaraeon Cymru wedi darparu cefnogaeth gyllidol yn ystod blwyddyn galed iawn, ac mae clybiau p锚l-droed lleol ymhlith y rheiny sydd wedi elwa'n sylweddol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does wybod eto pryd gaiff clybiau fel Caernarfon groesawu cefnogwyr yn 么l

Ychwanegodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru eu bod yn "deall yn llwyr y rhwystredigaethau gan lawer ledled y wlad", ond eu bod nhw'n gorfod dilyn y rheolau sy'n cael eu gosod gan y llywodraeth.

"Mae CBDC yn parhau eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru a'r Gr诺p Chwaraeon Cenedlaethol i ddod 芒 ph锚l-droed yn 么l yn saff o dan y polis茂au a chanllawiau COVID-19 perthnasol," meddai llefarydd.

Mae'n bosib iawn y bydd Osian yn 么l ar y cae ymarfer yn fuan felly - ond ei bryder mwyaf yw beth fydd yn digwydd i glwb Caernarfon os nad ydy o hefyd yn cael dychwelyd i'r eisteddle am rai misoedd eto.

"Dwi'n meddwl bod cael normalrwydd yn y byd p锚l-droed yng Nghymru yn mynd i dal i fod yn bell i ffwrdd, hyd yn oed os ydi Mark Drakeford yn caniat谩u torfeydd yn 么l yn fuan," meddai.

"Mae'r clwb wedi colli degau o filoedd o bunnau ers y cyfyngiadau wrth orfod chwarae gemau tu 么l i ddrysau cae毛dig.

"Dwi'n poeni, yn syml, fydd 'na ddim clwb i gefnogi yma yn y dyfodol."

Mae'r stori yma wedi ei chynhyrchu fel rhan o gynllun Gohebydd Ifanc y 91热爆. Mae'n brosiect sydd yn cydweithio gyda miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn - gan roi cyflei hyfforddi a meithrin sgiliau yn y cyfryngau, yn ogystal a chyfle i ddweud eu straeon eu hunain.

Gallwch ddod o hyd i straeon pobl ifanc eraill ar wefan gohebydd ifanc y 91热爆.