Clwstwr Covid-19: Gohirio llawdriniaethau Ysbyty Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Ysbyty Gwynedd wedi cyhoeddi bod y mwyafrif o lawdriniaethau yno wedi cael eu gohirio yn sgil clwstwr o achosion Covid-19.
Ddydd Llun, cyhoeddodd rheolwyr yr ysbyty eu bod yn ceisio rheoli lledaeniad o Covid-19 oedd yn effeithio cleifion mewn pum ward.
Roedd 75 claf yn derbyn triniaeth ar gyfer yr haint, ac o'r rhain roedd 49 yn gysylltiedig 芒'r clwstwr newydd.
Er nad oedd diweddariad ar y ffigyrau ddydd Iau, dywedodd Cyfarwyddwr Safle'r Ysbyty, Alyson Constantine fod llawdriniaethau yr wythnos hon a'r wythnos nesaf wedi'u gohirio.
Mae hynny yn eithrio rhai achosion dyddiol, mamolaeth a phediatreg, meddai.
"Bydd llawdriniaethau brys, gwasanaethau diagnostig, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol yn parhau," ychwanegodd.
"Gwnaed y penderfyniad hwn i'n galluogi i ddarparu capasiti ychwanegol ar y safle oherwydd nifer y bobl sy'n cael eu trin am haint Covid-19 yn yr ysbyty.
"Nid yw canslo llawdriniaethau dewisol yn benderfyniad yr ydym wedi'i wneud yn ysgafn a hoffem ymddiheuro am unrhyw loes a siom y mae hyn, yn anochel, wedi'i achosi.
"Mae diogelwch ein cleifion a'n staff yn hynod o bwysig ac roedd angen gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau hyn."
Dywedodd Ms Constantine bod t卯m yn parhau i reoli'r sefyllfa i geisio osgoi'r achosion rhag lledu ymhellach.
Ychwanegodd y dylai pobl ond dod i'r ysbyty pe bai hynny'n gwbl angenrheidiol.
Mae ymweliadau'n parhau i fod yn gyfyngedig, heblaw am rai amgylchiadau, ond dylai pobl barhau i fynychu apwyntiadau oni bai eu bod wedi cael gwybod fel arall, meddai.
Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cysylltu'n uniongyrchol gyda'r goll gleifion sydd wedi cael eu heffeithio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021