Covid: Rhybudd bod M么n yn 'un o'r cyfnodau mwyaf bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Ynys M么n yn wynebu "un o'r cyfnodau mwyaf bregus ers dechrau'r pandemig", yn 么l Gr诺p Atal Covid-19 yr ynys.
Mae'r t卯m aml-asiantaeth yn annog trigolion i barhau i fod yn "hynod ofalus".
Daw'r rhybudd wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos fod y gyfradd heintio ym M么n yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae nifer yr achosion yno yn 102.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth - yr ail uchaf yng Nghymru tu 么l i Sir y Fflint - gyda'r ffigwr trwy Gymru gyfan yn is na 76.
Dywed y gr诺p fod y ffigyrau yn "frawychus", gyda 19 marwolaeth yn gysylltiedig 芒'r haint mewn mis ym M么n - cyfanswm o 59 ers dechrau'r pandemig.
Yn y cyfamser ni fydd tair ysgol yng Ngwynedd yn agor i ddisgyblion cyfnod sylfaen ddydd Iau a Gwener oherwydd "sefyllfa o gynnydd mewn achosion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd".
Mewn llythyr at rieni, dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai oedi yn rhoi mwy o amser i asesu'r sefyllfa.
Mae'r gr诺p yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor M么n, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Prifysgol Bangor, Gr诺p Llandrillo-Menai a Meddygfeydd Ynys M么n.
Dywedodd Cadeirydd y Gr诺p a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor M么n, Dylan Williams: "Mae ein hynys bellach yn wynebu un o'r cyfnodau mwyaf bregus ers dechrau'r pandemig.
"Mae nifer yr achosion wythnosol o'r coronafeirws a'r raddfa sy'n profi'n bositif yn parhau'n bryderus; ac mae Ynys M么n dal gyda'r ail raddfa heintio coronafeirws uchaf unrhyw le yng Nghymru.
"Fel cymuned, ni allwn ymlacio - er bod pethau'n ymddangos fel eu bod yn gwella ar lefel genedlaethol.
"Mae ein gweithredoedd a'n hymddygiad unigol yn allweddol os ydym am weld y sefyllfa yn gwella cyn gynted 芒 phosibl, tra'n lleihau nifer y bobl sy'n colli eu bywydau."
Ychwanegodd: "Mae'n bwysicach nac erioed ein bod ni'n dilyn y canllawiau cenedlaethol a lleol hollbwysig. Mae'r rheolau yn bodoli er mwyn amddiffyn pawb, ein hanwyliaid, ein cymunedau a'r GIG."
'Methu gadael y gwaith caled fynd i wastraff'
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor M么n, y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae bywydau 59 o deuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi eu colli ym M么n wedi newid am byth o ganlyniad i'r feirws creulon hwn.
"Mae'r 11 mis diwethaf wedi bod yn hynod anodd a heriol i bawb ond ni allwn adael i'r holl waith caled fynd yn wastraff.
"Rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus 芒 phosibl a chadw at y rheolau cenedlaethol er mwyn amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a'n cymunedau."
Mae'r cyngor eisiau pwysleisio y dylai unrhyw un sydd 葍 symptomau ddechrau hunan-ynysu ynghyd 葍 phawb yn y cartref a threfnu prawf cyn gynted 芒 phosibl ac maent yn nodi y dylai trigolion drefnu prawf cyn ymweld 芒'r ganolfan brofi.
Gellir trefnu prawf drwy ffonio 119 neu drwy ymweld 芒'r .
Gohirio agor ysgolion
Ddydd Mercher fe gafodd rhieni a gofalwyr ysgolion Y Faenol, Y Garnedd a Chae Top yn ardal Bangor lythyr gan Gyngor Gwynedd i oedi dychwelyd plant i'r dosbarth.
Bydd yr ysgolion ar gau tan ddydd Llun, 1 Mawrth a hynny wedi i blant y Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) ddechrau mynd yn 么l i'w hysgolion yr wythnos hon.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai'r oedi'n "caniat谩u i'r awdurdod dderbyn mwy o wybodaeth yngl欧n ag effaith y sefyllfa yn Ysbyty Gwynedd ar gymuned yr ysgol".
Ddydd Mawrth dywedodd awdurdodau yn Ysbyty Gwynedd eu bod yn ceisio rheoli lledaeniad o Covid-19 sydd wedi effeithio cleifion mewn pum ward.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021