Meddyg wedi ymddeol 'heb gael cyfle i helpu brechu'
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu o Sir Gaerfyrddin, sydd wedi ymddeol, yn dweud ei fod yn teimlo'n "rhwystredig" nad yw'n cael cyfle i helpu y cynllun brechu.
Fe ddywedodd Dr Gareth Jones wrth raglen Dros Frecwast ar 91热爆 Radio Cymru, ei fod wedi gwneud cais i ymuno 芒'r t卯m dros fis yn 么l ond nad yw'r gwasanaeth iechyd wedi cysylltu ag ef.
"O'n i'n meddwl mai dyma gyfle i feddyg teulu wedi ymddeol fel fi i gyfrannu. 'Dan ni wedi bod yn rhoi brechlyn i bobl ers dros 40 mlynedd," meddai.
"'Dan ni'n gw'bod y broses, dan ni'n gwbod sut i dynnu'r brechlyn fewn i'r syringe, i fod yn saff gyda'r nodwydd a phopeth.
"Pwy well na meddygon teulu wedi ymddeol, nyrsys practis wedi ymddeol, nyrsys ysgol - 'da'n ni gyd yn brofiadol am sut i roi'r brechiad i bobl," meddai.
Dywed Llywodraeth Cymru bod yna gynllun symlach wedi'i ddatblygu i helpu prysuro'r broses o gael gweithwyr iechyd wedi ymddeol i gynorthwyo.
Er ei fod wedi ymddeol fel meddyg teulu, mae Dr Jones yn dal i weithio fel meddyg gyda th卯m rygbi Gleision Caerdydd.
Cafodd y gyfraith ei newid yn ddiweddar er mwyn caniat谩u i weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig, sydd ddim yn brechu fel arfer, i roi'r brechlyn Covid-19 neu'r brechlyn ffliw.
Mae mwy na 400,000 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wrth newyddiadurwyr ar 29 Ionawr bod 400 o feddygfeydd teulu yn cynnal clinigau brechu, 34 o ganolfannau brechu torfol gydag addewid am ragor, a bod 17 ysbyty yn darparu brechlynnau o amgylch Cymru.
Wrth i'r cynllun brechu fynd rhagddo, fe gyhoeddodd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru eu bod angen "yr holl gymorth sy'n bosibl ei gael" er mwyn cyflawni'r dasg o gynnig y brechlyn i bawb sydd ei angen.
Mae'r gwasanaeth yn dweud bod gwirioneddol angen i feddygon a gweithwyr iechyd sydd wedi gadael y proffesiwn i gynnig eu gwasanaeth wrth i'r argyfwng barhau.
Mae cynllun penodol i feddygon a gweithwyr iechyd sydd yn dychwelyd i helpu, ond er bod gan Dr Jones ei rif cofrestru GMC o hyd, nid yw wedi cael ei alw i helpu.
"Dwi'n gweithio yn yr ysbyty yn Glangwili, yn iwso'r nodwydd o dan ultrasound i roi injections i'r penelin, yr ysgwydd a'r arddwrn," medd Dr Jones am ei waith cyson i'r Gleision, "a dwi'n hen gyfarwydd 芒 sut i 'neud hynna a dwi'n 'neud cannoedd bob blwyddyn. Mae'n biti bo fi ddim yn gallu cyfrannu."
Mae Dr Jones wedi gofyn am gael gwneud y cyrsiau perthnasol sy'n cael eu darparu i gyn-feddygon sydd yn cynnig eu gwasanaeth, er ei fod yn hyfforddi eraill ac yn arholi ym maes anaphylaxis a CPR.
"Dwi'n ddigon parod i neud nhw. Dwi ddim cweit yn deall pam nad yw'r broses yn mynd yn gyflymach."
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan sefydliadau'r GIG rywfaint o hyblygrwydd i wneud penderfyniadau yngl欧n ag elfennau penodol o'r anghenion hyfforddi sydd eu hangen i ymuno 芒'r rhaglen frechu.
"Rydym ni'n ymwybodol bod rhai rhannau o'r hyfforddiant angenrheidiol yn achosi oedi i rai pobl ymuno 芒'r rhaglen, ac mae 'na gynllun mwy syml wedi'i ddatblygu i helpu prysuro'r broses."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021