Pryderon gweithwyr iechyd y gogledd am y system frechu
- Cyhoeddwyd
Mae rhai gweithwyr iechyd yn y gogledd yn rhwystredig yngl欧n 芒 phwy sy'n cael blaenoriaeth wrth dderbyn brechiad Covid-19.
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi cael ar ddeall bod ambell achos lle mae staff yn y maes iechyd sy'n gweithio tu 么l i ddesgiau wedi cael y brechlyn tra bod eraill sy'n gweithio ar y rheng flaen heb ei gael.
Dywedodd un gweithiwr iechyd yn y gogledd, sydd am fod yn ddienw, wrth raglen Newyddion fod yna annhegwch yn y system ddosbarthu.
"Dwi'n cael cyswllt wyneb yn wyneb efo'r cleientiaid ers i Covid ddechrau," meddai.
"Ond dwi'n teimlo bod y ffordd mae'r penderfyniad yn cael ei wneud o ran pwy sy'n cael y frech gynta' yn annheg iawn, gyda rhai o staff Cyngor Gwynedd sydd ddim yn cael cyswllt wyneb yn wyneb ac yn gweithio adra ers mis Mawrth yn cael hi cyn llawer o bobl, fel yr henoed sydd yn eu 80au."
Dywedodd un o weithwyr eraill Betsi Cadwaladr, er bod y brechlyn wedi'i ddarparu'n effeithlon iawn yn ei hadran, roedd hi'n "wirioneddol bryderus nad oedd rhai cyd-weithwyr yn yr ardal, sydd mewn cysylltiad cyson efo doctoriaid, ddim yn cael y brechlyn".
"Maen nhw'n frustrated iawn," ychwanegodd.
Mewn ymateb, dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn "gwerthfawrogi pryderon ein staff a'r awydd i gael eu brechu cyn gynted 芒 phosib".
Ychwanegodd Sue Green o'r bwrdd iechyd eu bod yn "brechu'r grwpiau blaenoriaeth uchaf gan gynnwys staff sydd 芒 chysylltiad uniongyrchol 芒 chleifion".
Roedd hynny, meddai, yn unol 芒 strategaeth Llywodraeth Cymru a'r Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI).
"Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn ddiweddar yn y cyflenwad o frechlynnau yr ydym wedi'u derbyn a'u rhoi ac rydym ar y trywydd iawn ar gyfer y cerrig milltir allweddol cenedlaethol," meddai.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi anfon rhestr o staff cymwys i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Mae'r rhestr yn cael ei hadolygu a'i diweddaru yn unol ag unrhyw arweiniad gan Lywodraeth Cymru.
Galwadau i frechu'r heddlu ac athrawon
Yn ogystal 芒'r maes iechyd, mae staff rheng flaen eraill hefyd yn erfyn i gael eu brechu.
Dywedodd Trystan Bevan, o Heddlu Gogledd Cymru, fod heddweision yn "rhoi eu hunain mewn peryg".
"Dydy o ddim yn opsiwn i ni weithio o adra," ychwanegodd.
Nid yr heddlu yn unig sy'n galw am gael eu brechu ar frys, mae athrawon hefyd.
Dywedodd Darren Booth-Taylor, pennaeth Ysgol Twm o'r Nant yn Ninbych, y byddai brechu athrawon yn lleihau pryder yn yr ysgol.
"Os yw'r staff yn cael eu brechu, byddai hynny'n creu staff llai pryderus sy'n trosglwyddo i blant hapusach," meddai.
"Felly mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill trwy frechu pob aelod o staff mewn ysgolion.
"Byddai ysgolion yn lleoedd mwy diogel pe bai'r brechlyn yn cael ei gyflwyno i staff ysgolion.
"Sy'n golygu y byddai rhieni'n teimlo'n fwy hyderus ac yn fwy hapus, yn fwy cyfforddus i ganiat谩u i blant ddychwelyd i ysgolion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021