Covid: 'Un o bob 10 yng Nghymru' gyda gwrthgyrff fis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae gwybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu y byddai un o bob 10 unigolyn mewn cartrefi yng Nghymru wedi bod gyda gwrthgyrff Covid-19 yn ystod mis Rhagfyr petai profion torfol wedi eu cynnal.
Roedd hyn yn gynnydd o'r amcangyfrif o un ymhob 19 ar gyfer mis Tachwedd.
Byddai bodolaeth gwrthgyrff yn awgrymu fod yr unigolion wedi eu heintio gyda Covid-19 yn y gorffennol.
Ar hyd a lled Prydain, roedd amcangyfrif o nifer y bobl fyddai wedi profi'n bositif am wrthgyrff i'r haint wedi bron a dyblu rhwng Hydref a Rhagfyr 2020.
Dywed y Swyddfa Ystadegau fod un o bob 10 o bobl yn y DU wedi datblygu gwrthgyrff ar gyfer yr haint ym mis Rhagfyr - gydag un ymhob wyth yn Lloegr, sef tua 12% o boblogaeth y wlad honno - neu 5.4m o bobl dros 16 oed.
Yn yr Alban, y gred yw fod un ymhob 11 o bobl y wlad wedi datblygu gwrthgyrff, tra bod y ffigwr isaf yng Ngogledd Iwerddon, sef un ymhob 13, neu 7.6% o'r boblogaeth.
Marwolaethau wythnosol
Roedd 454 o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid-19 yng Nghymru yn 么l y ffigurau wythnosol diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hyn 144 yn fwy nag a gofrestrwyd yr wythnos flaenorol - ac roedd yn cyfrif am bron i 38% o'r holl farwolaethau.
Er mai hwn yw'r ffigwr wythnosol uchaf sydd wedi ei gofnodi ystod y pandemig, dywed y Swyddfa Ystadegau fod angen gofal wrth ddehongli'r cynnydd sydyn yn y ffigurau, o achos gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, fyddai wedi effeithio ar amseru cofrestru marwolaethau.
Cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru lle mae Covid-19 yn cael ei grybwyll hyd at ac yn cynnwys 8 Ionawr oedd 5,417.
Mae'r nifer yn cynyddu i 5,599 pan mae marwolaethau gafodd eu cofrestru dros y dyddiau canlynol yn cael eu cyfrif.
Byrddau iechyd
Fe welodd ardaloedd byrddau iechyd Aneurin Bevan, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda eu nifer uchaf o farwolaethau Covid - sef 105, 109 a 72 o farwolaethau.
Roedd 45 o farwolaethau yn ymwneud 芒 Covid wedi'u cofrestru yn Rhondda Cynon Taf, gyda 43 yng Nghaerdydd a 41 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yng Nghymru, cododd nifer y marwolaethau o bob achos o 727 i 1,198 yn ystod yr wythnos ddiweddaraf - sydd 442 o farwolaethau (58.5%) yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd am yr wythnos dan sylw.
Roedd cyfran uchaf y marwolaethau 'gormodol' yn Llundain - sef 84.8%.
DIWEDDARAF: Ysgolion ar gau nes bod 'gostyngiad sylweddol'
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
DYSGU: Dysgu adref gyda Bitesize
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021