91热爆

Covid-19: Prawf negyddol yn hanfodol cyn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes awyr

Mae teithwyr sy'n dod i Gymru o dramor bellach yn gorfod dangos eu bod wedi cael prawf coronafeirws negyddol cyn iddynt adael.

Fe ddaeth y rheol newydd i rym am 04:00 fore Llun, 18 Ionawr a'r nod yw amddiffyn Cymru rhag mathau newydd o Covid-19 sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.

Mae'r rheol yn berthnasol i deithwyr sy'n cyrraedd mewn cwch, awyren neu dr锚n o wledydd y tu allan i'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Mae pedair gwlad y DU wedi cytuno ar y mesurau, ac fe fyddan nhw mewn grym tan o leiaf 15 Chwefror.

Dirwy o 拢500

Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio os nag oes prawf o ganlyniad negyddol, ni fydd modd teithio a gallai person fod yn cael dirwy o 拢500 pan yn cyrraedd Cymru.

Bydd yn rhaid cymryd y prawf dridiau cyn dechrau ar y daith o dramor - er enghraifft, os yn teithio ddydd Gwener y cyngor yw peidio cael prawf cyn ddydd Mawrth.

Bydd cyfnod cwarant卯n 10 diwrnod yn parhau mewn grym ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar restr gwaharddiadau teithio Llywodraeth Cymru, beth bynnag fydd canlyniad eu prawf cyn gadael.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheol yn berthnasol i deithwyr sy'n cyrraedd mewn cwch, awyren neu dr锚n

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod amrywiaethau o'r feirws wedi eu gweld dros y byd, ac felly bod angen "camau pellach i amddiffyn pobl yng Nghymru".

"Mae atal teithio rhydd yn golygu y bydd pobl sy'n teithio dramor yn gorfod cael prawf cyn dychwelyd ac ynysu ar 么l cyrraedd Cymru i sicrhau nad ydyn nhw'n dod 芒'r feirws yn 么l gyda nhw."

Ddydd Gwener, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod y llywodraeth yn "gwneud popeth o fewn ei gallu" i arafu lledaeniad y feirws.

Yn 么l gwybodaeth gan arbenigwyr sydd yn astudio amrywiaethau Covid-19, mae un o ddau fath gwahanol o amrywiadau newydd o'r haint o Frasil wedi ei ddarganfod yn y DU.

Yn 么l Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, mae'r mesurau newydd yn "hanfodol" wrth i'r DU gymryd camau ymlaen yn y broses frechu.

Pynciau cysylltiedig