Gohirio holl gemau p锚l-droed domestig yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae holl gemau Uwch Gynghrair Cymru wedi cael eu gohirio yn sgil y cyhoeddiad fod y wlad yn mynd i gyfnod clo arall.
Dywed Cymdeithas B锚l-droed Cymru fod holl gemau Uwch Gynghrair Cymru - y merched a'r dynion - yn ogystal 芒 chynghreiriau JD Cymru North a South, wedi'u gohirio am gyfnod amhenodol.
Mae gemau Uwch Gynghrair Cymru - neu'r JD Cymru Premier - wedi cael eu chwarae y tu 么l i ddrysau caeedig ers i'r tymor ailddechrau ym mis Medi.
Roedd hynny am eu bod wedi derbyn statws Chwaraeon El卯t gan y Gr诺p Chwaraeon Cenedlaethol - sy'n cynnwys cynrychiolaeth o Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.
Ond mae'r corff yna wedi ailystyried yn dilyn y datblygiadau diweddaraf o safbwynt y cyfnod clo newydd.
Ym mis Hydref, dywedodd rhai clybiau ym mhrif adran b锚l-droed Cymru eu bod yn ofni na fyddan nhw'n gallu gorffen y tymor heb gefnogaeth ariannol ychwanegol.
Mae sawl g锚m yn ddiweddar wedi cael eu gohirio yn dilyn achosion o Covid-19.
Ym mis Mai, cadarnhaodd Cymdeithas B锚l-Droed Cymru y byddai cynghreiriau Cymru o lefelau 1-4 yn gorffen yn gynnar oherwydd y pandemig.
Cei Connah gafodd eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn sgil y cyhoeddiad.
Mae Cymru gyfan yn y lefel uchaf - lefel pedwar - erbyn hyn, gyda phob siop ond y rhai hanfodol ar gau, ac mae pobl yn cael eu hannog i "aros adref" i achub bywydau.
Ddydd Llun, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 10 marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig 芒'r feirws, a 2,563 o achosion newydd.
Mae hynny'n dod 芒 chyfanswm y marwolaethau coronafeirws yng Nghymru i 3,125 a chyfanswm yr achosion i 125,329.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020