Cei Connah yn bencampwyr Cymru wrth i dymor ddod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas B锚l-Droed Cymru wedi cadarnhau diwedd y tymor i gynghreiriau Cymru o lefelau 1-4 oherwydd pandemig Covid-19.
Cei Connah sydd wedi eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf wedi i'r Gymdeithas ddod 芒'r tymor i ben.
Does dim gemau wedi eu chwarae ers i'r pandemig daro Cymru ddechrau mis Mawrth. Cafodd y safleoedd terfynol eu penderfynu drwy ddefnyddio system o bwyntiau am bob g锚m a enillwyd.
Cei Connah oedd ar y brig ar y pryd - bedwar pwynt ar y blaen i'r Seintiau Newydd, pencampwyr 2018-19.
Y Bala sydd yn gorffen yn drydydd gan sicrhau eu lle yng Nghyngrair Europa gyda'r safleoedd terfynol y tymor yn cael eu penderfynu ar gyfartaledd pwyntiau.
Nid oes penderfyniad ynglyn 芒 pha dimau fydd yn disgyn ac esgyn wedi ei wneud hyd yn hyn.
Airbus UK Brychdyn a Chaerfyrddin oedd y ddau glwb isaf yn Uwch Gynghrair Cymru cyn i'r tymor gael ei atal.
Mae cystadleuaeth Cwpan Cymru, oedd wedi cyrraedd y rownd gyn derfynol, hefyd wedi cael ei hatal am y tymor hwn.
Y Barri, orffennodd yn bedwerydd yn y tabl, fydd yn cymryd y safle yng Nghynghrair Europa sydd fel arfer yn cael ei roi i enillwyr y Gwpan.
Cadarnhawyd Prestatyn yn bencampwyr Cynghrair y Gogledd gyda Phrifysgol Aberatwe yn bencampwyr Cynghrair y De.
Abertawe yw Pencampwyr Uwch Gynghrair y merched ac yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas B锚l-Droed Cymru benderfynodd ddod 芒 tymor 2019-20 i ben gan gadarnhau penderfyniad pwllygor y g锚m yn genedlaethol.
Bu'r Gymdeithas yn cynnal trafodaethau ar-lein gyda'r clybiau yr wythnos ddiwethaf gyda'r clybiau yn adrodd yn 么l.