Covid 'yr her fwyaf' mewn gyrfa 36 mlynedd mewn addysg
- Cyhoeddwyd
Wrth iddo baratoi i ymddeol yr wythnos hon, mae pennaeth gweithredol dwy o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg Sir Benfro wedi cyfaddef taw'r argyfwng coronafeirws yw'r cyfnod mwyaf heriol yn ystod ei yrfa.
Go brin y byddai Mike Davies wedi darogan, ar ddechrau ei yrfa 36 mlynedd yn 么l, y byddai yn treulio'r misoedd diwethaf fel prifathro yng nghanol pandemig.
"Hon yw'r her fwyaf. Mae yna ddwy agwedd iddo. Agor yr ysgol yn ddiogel i ddisgyblion a staff. Ac wedyn ar 么l chwe mis bant o'r ysgol, yr elfen o'r plant yn dal i fyny," meddai.
"D'wi wedi bod yn ffodus iawn i gael panel sydd yn cwrdd yn yr ysgol yn wythnosol ers mis Ebrill er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn ddiogel.
"O ran y dal i fyny, rwy'n croesawu'r ffaith bod y llywodraeth wedi rhoi cyllid ychwanegol i ysgolion er mwyn i ni fedru penodi staff ychwanegol, ac mae hynny yn dwyn ffrwyth. Mae plant yn wydn iawn, ond yn barod dwi'n gallu gweld ffrwyth gwaith y staff yn dylanwadu ar y disgyblion."
Mae Mr Davies wedi bod yn bennaeth Ysgol y Preseli ers 2009, ac wedi bod yn bennaeth hefyd ar ysgol newydd Caer Elen ers dwy flynedd. Mae wedi treulio 34 mlynedd o'i yrfa yng Nghrymych.
Mae'n gadael ar 么l i Ysgol y Preseli gael ei henwi yn Ysgol Uwchradd y Degawd yng Nghymru gan y Sunday Times.
Beth felly yw'r gyfrinach i greu ysgol lwyddiannus?
"Gwaith caled, disgwyliadau uchel, a'r pwysigrwydd yna o berthynas positif rhwng pobl. Mae'r staff yn cydweithio yn agos, yn dilyn gweledigaeth. Mae'r plant yn prynu mewn i hynny, a'r rhieni yn eich dilyn chi. Mae'n dangos beth sydd yn bosibl."
Mae'n talu teyrnged i'w ragflaenydd, Martin Lloyd, am ei feithrin fel pennaeth, ac mae'n dweud ei fod e wedi ceisio gwneud yr un peth gyda staff presennol.
Mae Rhonwen Morris wedi ei phenodi fel pennaeth newydd Ysgol y Preseli, gyda Dafydd Hughes wedi ei benodi yn bennaeth yn Ysgol Caer Elen. Mae'r ddau yn gweithio yn Ysgol y Preseli ar hyn o bryd.
Twf addysg Gymraeg
Roedd sefydlu cyfrwng Cymraeg Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn 2018, i blant 3-16 oed, ar 么l buddsoddiad o 拢28m yn nodi datblygiad cyffrous i addysg Gymraeg yn Sir Benfro, o dan linell y Landsger.
Mae Mike Davies yn galw ar yr awdurdod lleol i gyflymu'r broses o ehangu addysg Gymraeg yn ne'r sir.
"Mae e dal yn her, oherwydd mae'r niferoedd yn yr uwchradd yng Nghaer Elen yn dal yn fach.
"Mae yna ysgol newydd Gymraeg yn agor ym Mhenfro, a dwi'n croesawu hynny, ond mae angen edrych yn ehangach. Mae yna ysgol ddwy ffrwd lwyddiannus yn Arberth, a bydden ni'n croesawu honna yn mynd yn ysgol Gymraeg a Saesneg ar wah芒n.
"Dwi hefyd yn gweld lot o botensial i agor uned Gymraeg neu ysgol Gymraeg yn Aberdaugleddau."
Yn ei amser hamdden, mae Mike Davies yn llais cyfarwydd fel sylwebydd ar raglen Sgorio, ac yn gyn-chwaraewr dawnus yn Aberystwyth. Mae'n cofio am y tro cyntaf iddo weld un o gyn-ddisgyblion mwyaf enwog Ysgol y Preseli.
"Roedd y chweched dosbarth yn chwarae p锚l-droed ar y cyrtiau tenis, a dyma gnoc ar y drws ac un ohonyn nhw yn dweud bod rhaid i fi ddod i weld y bachgen yma ar y cyrtiau tenis, sydd wedi dod o Ysgol Arberth.
"Dyma fi yn mynd lawr i gwrdd 芒 Joe Allen ar un o ddiwrnodau pontio Ysgol y Preseli. Dyna'r tro cyntaf i fi gwrdd ag e.
"I ddilyn ei yrfa fe drwyddo, mynd i Abertawe, Lerpwl a Chymru, ac yn seren yn yr Ewros, roedd e'n wych i'r ysgol ac i finne oedd wedi gweld e'n datblygu. Rwy mor browd ac mor falch ei fod e mor barod i siarad mor dda yn y Gymraeg a'r Saesneg ar y cyfryngau."
Chwarae mwy o golff yw'r addewid wrth adael ei swyddi yn Hwlffordd a Chrymych, ond fe fydd hefyd yn parhau i gynghori ysgolion Sir Benfro ar arweinyddiaeth yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020