91热爆

Cynlluniau i brofi mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd ysgolion a cholegau yn cael "cefnogaeth, offer a hyfforddiant" i gynnal y profion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglen brofi am Covid-19 yn cael ei gynnal mewn ysgolion a cholegau o fis Ionawr ymlaen.

Bydd disgyblion a staff fyddai fel arfer yn gorfod hunan-ynysu am eu bod wedi cael eu nodi fel 'cysylltiad agos' i rywun sydd 芒 Covid-19 yn cael cynnig prawf fel bod modd iddyn nhw barhau i fynychu'r ysgol.

Fe fydd yr unigolion hynny yn gallu penderfynu hunan-ynysu fel yr arfer, neu wneud prawf "llif unffordd" ar ddechrau'r diwrnod ysgol a thrwy gydol y cyfnod hunan-ynysu.

Byddai'r rheiny sy'n cael canlyniad negatif yn gallu parhau i fynychu'r ysgol fel arfer, tra bo'r rheiny sy'n profi'n bositif yn gorfod hunan-ynysu a threfnu prawf arall i gadarnhau'r canlyniad.

Dywedodd y Gweinidog Addysg mai'r nod ydy lleihau nifer y disgyblion a staff sy'n gorfod hunan-ynysu.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae profion llif unffordd yn rhoi canlyniad mewn 20 i 30 munud, ond mae pryderon am eu cywirdeb

Mae profion llif unffordd (lateral flow tests) yn gallu canfod antigen feirysol Covid-19 ar sampl swab.

Mae profion o'r fath yn rhoi canlyniad mewn 20 i 30 munud, ac mae'n bosib i bobl gynnal y profion hun arnyn nhw eu hunain.

Profion o'r math yma sydd wedi bod yn cael eu defnyddio ar gyfer y profi torfol sydd wedi cael eu cynnal ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon.

Pryderon am gywirdeb y profion

Daw'r cyhoeddiad am brofi mewn ysgolion wedi i arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw godi pryderon ynghylch cywirdeb y profion.

Mewn labordai, canfuwyd bod y profion yma yn tua 70% effeithiol wrth ganfod achosion positif, ond dywedodd Dr Angela Raffle fod cynlluniau peilot, fel un yn Lerpwl, yn llawer llai effeithiol.

Ond yn 么l y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bydd "y gwersi rydym wedi'u dysgu o ddefnyddio profion llif unffordd mewn cynlluniau peilot mewn sefydliadau addysg uwch ledled Cymru, ac ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn helpu i lywio sut y gallwn gyflwyno profion llif unffordd yn llwyddiannus mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill yn y dyfodol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod y profion ydy lleihau nifer y disgyblion a staff sy'n gorfod hunan-ynysu

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "bwriadu cyflwyno'r rhaglen brofi i bob ysgol a lleoliad addysg bellach, gan gynnwys staff cynradd a gofal plant".

"Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod model ar gael sy'n gweithio, ac sy'n ddiogel, caiff y rhaglen ei rhoi ar waith fesul cam yn 么l y lefel o risg, gan ddechrau gydag ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg bellach," meddai llefarydd.

Bydd pob ysgol uwchradd a nifer o ysgolion cynradd yn cau eu drysau ac addysgu ar-lein yr wythnos hon mewn ymdrech i leihau cyfraddau coronafeirws ledled Cymru.

Ychwanegodd y bydd ysgolion a cholegau yn cael "cefnogaeth, offer a hyfforddiant" i gynnal y profion.

'Amharu cyn lleied 芒 phosibl ar addysg'

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Drwy gydol y pandemig hwn, mae wedi bod yn flaenoriaeth gennym i sicrhau bod dysgwyr yn cael cymaint o addysg 芒 phosibl, a bod y sefyllfa'n amharu cyn lleied 芒 phosibl ar yr addysg honno.

"Bydd y cynlluniau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni'r flaenoriaeth honno.

"Rydym yn cydnabod nad yw wedi bod yn hawdd i ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunan-ynysu o ganlyniad i gael eu nodi'n 'gysylltiad agos', ac rydym yn cydnabod bod hyn wedi cael effaith ar y dysgu wyneb yn wyneb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Croeso un pennaeth - ond sawl cwestiwn

Bydd profi disgyblion yn caniat谩u iddyn nhw barhau 芒'u gwersi gan roi "rhyw fath o sefydlogrwydd yn eu bywydau nhw" meddai pennaeth Ysgol Uwchradd Gymraeg Bro Morgannwg yn Y Barri, Hywel Price, wrth raglen Post Cyntaf.

"Ar y funud dwi'n teimlo bod ysgolion bron yn gweithio fel y gwasanaethau argyfwng - 'y chi 'mond galwad ff么n i ffwrdd ar hyn o bryd o orfod rhyddhau blynyddoedd penodol o ysgolion," dywedodd.

"Yr anrhefn ma' hynny'n ei greu ym mywydau'r rhieni, y trefnu, y broses o lanhau ysgolion, gorfod rhoi cyfarwyddwyd i rieni o ran sut i barhau a'r dysgu o adref a'r holl waith papur chi'n gorfod darparu i iechyd cyhoeddus Cymru a'r sir ac yn y blaen.

"Mi fydd pobl yn croesawu hyn, ond ma' 'na broblemau hefyd... sut yn union ma' hyn yn mynd i weithredu? Gallwch chi ddychmygu'r cynnwrf mewn ysgol pan, yn sydyn, 'ych chi'n gorfod profi blwyddyn o tua 150 i 200 o ddisgyblion, trefnu hynny, rheoli'r cynnwrf, cysylltu 芒'r rhieni.

"A dwi'n tybio nad pawb fydd eisiau'r prawf. Bydd angen cadarnhau os bydd raid i rieni fod yng nghwmni disgyblion, a gyda'r profion yn parhau ryw 20 munud i hanner awr cyn bod canlyniad, wel ble y'ch chi'n rhoi 200 o ddisgyblion tan ddaw'r canlyniadau hynny?"

Mae llawer o ddyfalu hefyd ymhlith y proffesiwn, meddai, na fydd ysgolion yn ailagor yn llawn am gyfnod wedi'r Nadolig.

"Yn bron bob cyfarfod y fi'n mynychu neu unrhyw sgyrsiau fi'n eu cael, yr awgrym cryf yw na fydda' nhw," dywedodd. "Wrth gwrs, awgrym ydi hynny nid cadarnhad, y byddai ysgolion yn gorfod dysgu o hirbell eto o 4 Ionawr a bydda nhw'n dychwelyd ar yr 11eg.

"Ond mae hynny wrth gwrs yn nwylo'r llywodraeth a'r Gweinidog Addysg i gadarnhau hynny, ond dyna'r sibrydion sydd ar led ar hyn o bryd."