91热爆

Achosion positif Covid-19 Cymru yn mynd heibio 100,000

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dros 100,000 o achosion coronafeirws positif bellach wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Cafodd 2,494 o achosion newydd eu cofnodi yn y 24 awr ddiweddaraf - y ffigwr dyddiol uchaf eto - gan fynd 芒'r cyfanswm i 100,725.

Roedd yna 31 o farwolaethau yn gysylltiedig 芒'r feirws, yn 么l ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r corff wedi cofnodi 2,849 o farwolaethau hyd yma.

Ond mae'r gwir ffigwr - yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) - ymhell dros 3,000.

Beth am y cyfraddau saith diwrnod?

Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod ar ei huchaf ym Merthyr Tudful - ar 808.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth rhwng 3-9 Rhagfyr.

Dyma'r tro cyntaf i unrhyw awdurdod yng Nghymru fynd heibio i 800 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Mae ffigwr Merthyr (808.9) bron i ddwywaith cyfradd saith diwrnod Cymru gyfan, sef 430.1 fesul 100,000.

Yna mae Castell-nedd Port Talbot yn 743.8, yna Pen-y-bont ar Ogwr yn 655.6, Casnewydd yn 654.3, Abertawe ar 640.5, Blaenau Gwent ar 621.2 a Chaerffili ar 611.3.

Yn Lloegr, Llundain sydd 芒'r gyfradd achosion uchaf dros saith diwrnod - ar 191.8 fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Ble mae'r achosion diweddaraf?

Mae'r achosion newydd yn cynnwys 327 yng Nghaerdydd, 324 yn Abertawe, 251 yn Rhondda Cynon Taf, 222 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 210 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 175 yn Sir Gaerfyrddin, 139 yng Nghasnewydd a 135 yng Nghaerffili.

O'r 31 marwolaeth a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn, roedd naw yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, roedd chwech yr un yn rhanbarthau bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe, a dwy yr un yng Nghaerdydd a'r Fro a rhanbarth Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Cafodd 19,837 o brofion eu cynnal ddydd Gwener.

Ni fydd unrhyw ffigyrau coronafeirws ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul oherwydd gwaith cynnal a chadw.

Pynciau cysylltiedig