Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ystyried mwy o gyfyngiadau Covid-19 cyn y Nadolig
Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno rhagor o gyfyngiadau coronafeirws cyn y Nadolig, yn 么l Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Mae Dr Frank Atherton wedi annog pobl i beidio 芒 chymysgu ag unrhyw un y tu allan i'w cartref cyn y Nadolig.
Ychwanegodd wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru fod lefelau trosglwyddo ar hyn o bryd yn uwch na'r hyn yr oedd y llywodraeth wedi'i ddisgwyl.
Ond dywedodd nad ydyn nhw'n ystyried newid y penderfyniad i lacio rhai cyfyngiadau ar gwrdd dan do rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
Daeth ei sylwadau cyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau 2,238 o achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf - y nifer dyddiol uchaf ers dechrau'r pandemig.
Yn ogystal, cofnodwyd 31 yn rhagor o farwolaethau pobl gyda coronafeirws dros yr un cyfnod, ac mae ICC yn cydnabod bod y gwir ffigwr yn y ddau achos yn debygol o fod yn llawer uwch.
Ychwanegodd Dr Atherton ei bod yn anodd rhagweld pa fesurau y gallai fod yn rhaid eu cymryd ar 么l yr 诺yl, os bydd niferoedd yr achosion yn parhau i godi.
"Rydyn ni mewn perygl o fynd i mewn i gyfnod y Nadolig gyda chyfraddau llawer uwch nag yr oeddem ni wedi ei ragweld neu wedi gobeithio," meddai Dr Atherton.
"Mae gweinidogion yn ystyried pa bethau pellach a allai fod yn bosibl yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae angen ystyried hynny."
Dywedodd Dr Frank Atherton wrth gynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher bod "Covid yn ffynnu ar gyswllt dynol".
"Does dim ots a yw y tu fewn neu tu allan - unwaith y bydd yn cyrraedd ein cartrefi mae'n lledaenu'n gyflym iawn," meddai.
"Yr anrheg gorau y gallwn ei rhoi i'n teuluoedd eleni yw Nadolig di-coronafeirws.
"Rhaid i ni i gyd weithio i leihau nifer y bobl rydyn ni'n dod i gysylltiad 芒 nhw rhwng nawr a'r Nadolig.
"Mae fy neges ar hyn yn wirioneddol syml iawn: peidiwch cymysgu gyda phobl y tu allan i'ch cartref rhwng nawr a'r Nadolig. Peidiwch 芒 chymysgu os gallwch chi ei osgoi."
Ond dywedodd arweinydd y gr诺p Ceidwadol yn y Senedd, Paul Davies bod angen i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu cynlluniau i fynd i'r afael 芒 Covid-19 ar 么l y Nadolig.
"Mae angen i ni ddeall nawr pa opsiynau sydd yna - rwy'n deall ein bod angen gweld y sefyllfa bryd hynny ond mae'n iawn ein bod yn cael gwybod beth yw'r opsiynau," meddai.
Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru?
Ychwanegodd Dr Atherton fod cynnydd mewn achosion positif i'w weld yn 21 o 22 siroedd Cymru.
O ran achosion positif, dywedodd bod y gyfradd genedlaethol yn 350 o achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl, a bod hyn yn "uchel iawn".
Mewn 10 o'r siroedd mae'r ffigwr hynny dros 400 i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Ond wedi'r diwrnod cyntaf o frechu yn erbyn Covid-19 ddydd Mawrth, dywedodd bod disgwyl i tua 6,000 dderbyn y brechlyn erbyn diwedd yr wythnos.
Bydd 6,000 arall yn ei dderbyn yr wythnos nesaf, meddai.
'Ddim yn beio pobl'
Yn gynharach ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog Iechyd bod gan bawb ran i chwarae er mwyn arafu lledaeniad y feirws, ac y bydd "goblygiadau difrifol" os nad ydy ymddygiad pobl yn newid.
Dywedodd Vaughan Gething bod angen i bawb "gymryd cam yn 么l ac ystyried pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa".
Daeth cyngor gwyddonol ddydd Mawrth i bobl ystyried hunan-ynysu cyn y Nadolig, a hynny ar 么l rhybudd am drydedd don o Covid-19.
Ychwanegodd Mr Gething y byddai'r llywodraeth yn gwneud ei rhan, ond na fydd llwyddiant heb i "bawb wneud penderfyniadau gwahanol am sut i fyw ein bywydau".
Dydd Llun, dywedodd Mr Gething bod sefyllfa Covid-19 yn "ddifrifol iawn" yng Nghymru, a bod y nifer uchaf a gofnodwyd erioed o gleifion coronafeirws yn ein hysbytai.
Yn siarad ar 91热爆 Radio Wales fore Mercher, dywedodd Mr Gething mai "newidiadau mewn patrymau ymddygiad" ers y clo byr sydd wrth wraidd y cynnydd mewn achosion Covid-19.
"Dydyn ni ddim yn beio rhannau o gymdeithas Cymru," meddai.
"Rydyn ni'n dweud os nad ydyn ni'n newid ein hymddygiad, yna bydd goblygiadau difrifol i hynny. Dyna wir plaen y peth."
Pan ofynnwyd iddo a oedd angen cymryd camau pellach cyn y Nadolig yn hytrach nag yn y flwyddyn newydd, dywedodd bod y llywodraeth wedi gweithredu ddiwedd wythnos diwethaf wrth gyfyngu ar y sector lletygarwch.
"Rydyn ni'n meddwl yn gyson beth y'n ni'n mynd i wneud yn y cyfnod cyn y Nadolig ac ar 么l y Nadolig", meddai.
"Dyma'r penderfyniadau anodd iawn bydd rhaid i weinidogion wneud dros y dyddiau nesaf.
"Dwi'n glir nad ydyn ni'n tanbrisio'r sefyllfa rydyn ni ynddi.
"Ond yn y b么n, gall unrhyw benderfyniad mae'r llywodraeth yn ei wneud ond fod yn effeithiol os ydyn ni'n gwneud dewisiadau gwahanol am sut i fyw ein bywydau."
Wrth i'r cyfyngiadau ar fusnesau gael eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, roedd y gwrthbleidiau yn y Senedd wedi dweud bod y rheolau'n "anghymesur", ac roedd galwad am fwy o gyfle i fusnesau "gynllunio o flaen llaw".
Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth Cymru yn "colli rheolaeth o ledaeniad yr haint", tra bod Plaid Cymru wedi dweud bod clo byr mis Tachwedd wedi dod i ben yn "rhy fuan".
Fe wnaeth Mr Gething ymateb fore Mercher, gan ddweud ei bod yn "od" bod y gwrthbleidiau wedi beirniadu cyfyngiadau ychwanegol, ond "bellach yn dweud, 'edrychwch mae 'na broblem'".
"Dwi'n meddwl bod angen i bawb gymryd cam yn 么l ac ystyried pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa.
"Os oes gan unrhyw un o'r byd gwleidyddol gynllun am sut i wneud rhywbeth yn wahanol all leihau'r cyfyngiadau yna wrth gwrs dylen ni drafod y peth, ond yn y pen draw bydd yn dibynnu ar y dewisiadau rydyn ni, y cyhoedd, yn eu gwneud.