91热爆

Tri chartref i gael cwrdd dan do dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Nid yw Mark Drakeford wedi gwadu y gall Cymru wynebu cyfyngiadau llymach cyn 23 RhagfyrFfynhonnell y llun, SolStock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Mark Drakeford wedi gwadu y gall Cymru wynebu cyfyngiadau llymach cyn 23 Rhagfyr

Bydd hyd at dri chartref yn cael cwrdd y tu fewn am hyd at bum diwrnod dros y Nadolig.

Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno ar y trefniadau, sy'n dod i rym rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

Ond rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford na fyddai llacio'r cyfyngiadau'n anogaeth i "wneud pethau peryglus".

Bydd y cyfyngiadau teithio yn cael eu codi ar draws y bedair gwlad gan roi'r cyfle i hyd at dri chartref ddod at ei gilydd.

Pan fydd y 'swigen' yna wedi ei chreu, ni ddylai gael ei newid na'i hymestyn ar unrhyw amod, medd datganiad gan y llywodraethau ar y cyd.

Bydd y rheolau presennol, llymach o fewn y diwydiant lletygarwch yn parhau dros yr un cyfnod.

Dywedodd Mr Drakeford bod y newid er mwyn "helpu pobl i gwrdd 'da'i gilydd, gyda ffrindiau, gydag aelodau eraill y teulu".

"Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru mae nifer y bobl sy'n dioddef o coronafeirws yn cynyddu unwaith eto a dyna pam mae rhaid i ni fod yn hyblyg," meddai.

"Does dim un cynllun ni'n gallu cytuno arno a bod yn si诺r bod hwnna'n gallu ymdopi gyda'r feirws."

Ychwanegodd bod "rhaid i bobl ddefnyddio'r cyfleoedd hyn mewn ffordd sy'n rhesymol a chymryd y cyfrifoldebau sydd 'da ni i gyd".

"Y dewis oedd cael cyfnod dros y Nadolig ble mae rheoliadau 'da ni sy'n berthnasol i bob cwr o'r Deyrnas Unedig, neu bobl jyst yn 'neud beth bynnag maen nhw eisiau 'neud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod holl lywodraethau'r DU yn cytuno ar y rheolau

Roedd gweinidogion y DU yn cytuno mai cydweithio "oedd y ffordd orau", meddai.

Dywedodd hefyd y bydd yn cyfarfod ag aelodau ei gabinet cyn diwedd yr wythnos i benderfynu a fydd angen cyfyngiadau llymach yng Nghymru cyn y Nadolig.

Daw wrth i ffigyrau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod 21 yn rhagor wedi marw gyda'r feirws.

Ddydd Mawrth, fe gododd y cyfanswm o farwolaethau i 2,406. Ond mae'r ONS eisoes wedi cadarnhau bod y gwir ffigwr dros 3,000.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 595 o achosion newydd o'r feirws wedi'u cofnodi ddydd Mawrth.

Beth ydy'r ymateb i'r cyhoeddiad?

Disgrifiad,

Beth oedd yr ymateb yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd?

Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru bod angen i bobl feddwl am y bobl fwyaf bregus yn eu teuluoedd wrth wneud cynlluniau.

Dywedodd Dr Mair Hopkin y byddai llawer o bobl yn croesawu'r penderfyniad.

"Ond dydy'r pandemig heb ddiflannu, mae dal yna, a phan rydyn ni'n gwneud ein cynlluniau Nadolig rhaid i ni ystyried y rhai mwyaf bregus yn ein swigen teulu a beth sydd orau iddyn nhw."

Ychwanegodd ei bod yn bwysig cynllunio ymlaen llaw, ac os fydd pawb yn cadw at y rheolau "yna byddwn ni gyd yn gallu mwynhau'r Nadolig".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hayley yn teimlo bod caniat谩u pum diwrnod yn "ormod"

"Sai'n credu bod ishe 'neud e dros bum diwrnod," meddai Hayley Stephens, sy'n gweithio mewn archfarchnad yng Nghaerfyrddin.

"Dau neu dri diwrnod falle ond fi'n ffindo bo' pump yn ormod.

"Mae'n neis bo' pobl yn gallu cymysgu. Fydda i'n gweithio felly 'sai mo'yn y risg i rywun arall gal e achos fi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"'Sdim ishe'r Calan," meddai Lesley James

Ond mae ei chyd-weithiwr, Lesley James yn falch o gael edrych ymlaen at aduniad bach teuluol.

"'Wi'n hapus iawn! Ma'r ferch yn byw yng Nghaerdydd, felly bydd hi'n gallu dod lawr a ma'r mab yn Abertawe, felly bydd y ferch a'r mab yn gallu cael Dolig 'da'i gilydd," meddai.

"Ma'r pum diwrnod yn ddigon teg - 'sdim ishe'r Calan achos ma' mwy o bobl yn mynd mas a mwy yn casglu 'da'i gilydd."

Risgiau'n parhau

Mae Paul Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru wedi croesawu'r newydd.

"Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd," meddai.

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod y "dull tosturiol ond cyfrifol o lacio cyfyngiadau yn gyfyngedig dros gyfnod y gwyliau yn synhwyrol".

"Fodd bynnag, mae'n hanfodol nad ydym yn colli enillion caled yr ychydig fisoedd diwethaf er mwyn ychydig ddyddiau.

"Yn anffodus, ni fydd hyn yn Nadolig fel arfer a rhaid i bobl wybod bod unrhyw ymlacio hefyd yn dod 芒 risgiau.

"Mae gan y llywodraeth gyfrifoldeb i sicrhau cyfathrebu clir dros gyfnod yr 诺yl, gan annog pobl i ddilyn y canllawiau, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein ffrindiau a'n teulu yn ddiogel."