Cyfnod hunan-ynysu yn cael ei ostwng o 14 i 10 diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfnod sy'n rhaid hunan-ynysu gyda Covid-19 yn cael ei ostwng o 14 diwrnod i 10.
Dywedodd y llywodraeth fod y penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n awgrymu nad ydy unigolion yn heintus ar 么l 10 diwrnod.
Mae'r newid yn berthnasol i bobl sy'n derbyn prawf positif, pobl sy'n rhannu cartref gyda'r bobl hynny a phobl sy'n gorfod hunan-ynysu ar 么l dychwelyd i Gymru o wlad dramor.
Bydd y rheol newydd yn dod i rym ddydd Iau, 10 Rhagfyr.
I bwy mae'r newid yn berthnasol?
Bydd y newid o 14 i 10 diwrnod yn berthnasol i:
Bobl sydd wedi derbyn prawf positif am Covid-19;
Pobl sydd 芒 symptomau Covid-19 sy'n aros am ganlyniad prawf, neu sydd gael prawf;
Pobl sy'n rhannu cartref gyda rhywun sy'n dangos symptomau Covid-19, neu sydd wedi cael prawf positif;
Cysylltiadau agos achosion positif o Covid-19;
Teithwyr sy'n dychwelyd o wlad sydd heb ei heithrio rhag hunan-ynysu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n gwybod bod hunan-ynysu yn anodd i bobl, ac rydyn ni'n credu y bydd teuluoedd, cymunedau a busnesau yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw i leihau y cyfnod y mae'n rhaid i bobl hunan-ynysu yn ddiogel.
"Mae hunan-ynysu a cwarantin yn chwarae rhan allweddol wrth atal y coronafeirws rhag lledaenu, a dwi am ddiolch i bawb sy'n parhau i ddilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020