91热爆

Ateb y Galw: Y canwr a'r darlledwr Huw Jones

  • Cyhoeddwyd
Huw Jones

Y canwr a'r darlledwr Huw Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Dr Elin Jones yr wythnos diwethaf.

Huw, ynghyd 芒 Dafydd Iwan, oedd sefydlydd y cwmni recordio, Sain, yn 1969. Bu'n brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 ac roedd yn gadeirydd Awdurdod y sianel hyd at 2019.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Yn s芒l yn fy ngwely hefo t芒n glo mawr yn y llofft (2-3 oed).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Criw o fyfyrwyr del o'r gorllewin fyddai'n dod i Gapel Ebeneser, Caerdydd, pan oeddwn i tua 14.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cael fy nal yn trio torri i mewn i Hostel Ieuenctid yn yr Almaen pan yn bodio ar draws Ewrop yn 1967.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw oedd canwr sengl gyntaf y cwmni Sain yn 1969

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Fore Mercher, Tachwedd 4ydd, pan wnaeth Donald Trump ei orau i danseilio democratiaeth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Treulio gormod o amser yn syrffio'r we!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ges i fy ngeni ym Manceinion (ond gan mod i wedi s么n am hynny yn fy hunangofiant, tydi hi ddim yn gyfrinach bellach).

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gyrru adre i'r gogledd ar 么l i Gymru guro'r Almaen 1-0 yn 1991.

Ffynhonnell y llun, Mark Leech/Offside
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ian Rush oedd yr arwr a sgoriodd yr unig g么l ym muddugoliaeth Cymru dros Yr Almaen ym Mharc yr Arfau, Caerdydd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ymddeoledig ac ymlaciedig.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Unrhyw le yn Eryri dros 300m.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Hen Wlad Fy Nhadau cyn g锚m ryngwladol, cyn y Cloi - oes angen egluro?

O archif Ateb y Galw:

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lionel Messi.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Yn ddelfrydol cael parti mawr hefo fy holl deulu a ffrindiau - ond yn dibynnu be' oedd ar fin digwydd i'r blaned.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Hanes Cymru gan John Davies - darllen hanfodol i bob Cymro a Chymraes.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw'r arbenigwr ar hanes Cymru, John 'Bwlchllan' yn 2015

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Cinio Nadolig Sian (fy ngwraig) - ond nid bob dydd chwaith.

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Geraint L酶vgreen

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 91热爆 Cymru Fyw