Cofio John Davies
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r hanesydd Dr John Davies, fu farw ar 16 Chwefror. Mae'n cael ei ystyried yn un o brif haneswyr ei genhedlaeth. Bydd yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfrol gynhwysfawr 'Hanes Cymru'.
Bydd hefyd yn cael ei gofio gan genedlaethau o fyfyrwyr gan iddo fod yn Warden ar Neuadd Pantycelyn, Prifysgol Aberystwyth am 18 mlynedd. Roedd hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar y teledu a radio wrth ymdrin 芒 phynciau'n ymwneud 芒 hanes Cymru.
"Tyndra yn creu hanesydd mawr"
Mewn cyfweliad ar Newyddion 9 dywedodd hanesydd blaenllaw arall, Yr Athro Emeritws Prys Morgan, bod Cymru wedi colli un o'i haneswyr mwyaf:
"Dwi'n meddwl mai'r tyndra yma rhwng Cymry'r Blaid (Cymru), Cymry'r Rhondda, Cymry Ceredigion, a Cymry anghydffurfiaeth capel, y tyndra yma oedd yn creu'r hanesydd yn John ac i raddau'r llenor yn John.
"Mae'n rhaid i chi gael rhyw fath o dyndra a chasineb, a clash rhwng y pethe yma i greu hanesydd mawr ac fe gr毛wyd hyn yn John Davies."
"Un o'r haneswyr mwyaf"
Bu'r Athro Syr Deian Hopkin yn cyd-ddarlithio gyda John Davies yn adran Hanes Prifysgol Aberystwyth. Disgrifiodd 'Hanes Cymru' fel llyfr fyddai'n cael ei werthfawrogi am ddegawdau i ddod:
"Mi fydd 'Hanes Cymru' yn llyfr fydd yn ein goroesi ni i gyd. Falle bydd pethau yn newid, ymchwil newydd. Dwi'n siwr y bydd y llyfr, fel cyfraniad J E Lloyd ganrif yn 么l, yn dal i gael ei werthfawrogi ganrif o nawr."
Roedd yr Arglwydd Morgan (Yr Athro K O Morgan), hefyd yn hael ei ganmoliaeth o gyfraniad Dr John Davies:
"Un o'r haneswyr mwyaf yr ydym wedi ei gael yng Nghymru. Roedd personoliaeth John yn dod allan yn ei ddehongliad o hanes Cymru".
Pantycelyn
Daeth cenhedlaethau o fyfyrwyr i adnabod Dr John Davies tra oedd yn Brif Warden Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Roedd Dr Glenda Jones yn un o'i wardeiniaid cynorthwyol:
"Daeth 芒 hanes y Gymru fodern yn fyw i'w gywion academaidd. Bu'n fraint rhannu orig a mwy yn ei gwmni. Atgofion i'w trysori."
Roedd y newyddiadurwr Tweli Griffiths hefyd yn fyfyriwr yn Neuadd Pantycelyn. Bu'n hel atgofion ar Raglen Dylan Jones, 91热爆 Radio Cymru:
"Roedd e'n fugeiliol o ran gofal. Allwch chi ddim dymuno gwell. Roedd drws ei fflat wastad ar agor. Roedd John wrth ei fodd yn cymdeithasu beth bynnag, ond roedd y gallu ganddo i ddangos diddordeb ym mhob unigolyn a thrwy hynny daeth i adnabod pawb yn y neuadd.
"Mae 'na hanes am un o'i ddarlithoedd ble torrwyd ar draws y ddarlith gan s诺n clwcian. Yna John yn cyhoeddi "Sgwn i a y'n ni wedi bod yn llwyddiannus?". Ac yna fe agorodd ddrws cwpwrdd ffeilio i ddatgelu i芒r yn gori! Dw'n i ddim a oes gwirionedd i'r stori - ond fydde fe ddim yn fy synnu!".
Un arall sydd ag atgofion melys am Warden Pantycelyn yw'r Dr Jamie Medhurst. Mae ei gysylltiad o yn parhau gyda Phrifysgol Aberystwyth yn rhinwedd ei swydd fel Uwch Ddarlithydd Cyfryngau a Chyfathrebu. Dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Trist iawn i glywed am farwolaeth John Bwllchllan. Fe oedd Warden Pantycelyn pan gyrhaeddais i'r Brifysgol ym 1986.
"Roedd hefyd yn darlithio yn Adran Hanes Cymru... ac arogl m诺g ei b卯b yn treiddio llawr B Adeilad Hugh Owen! Athrylith, cawr o hanesydd ac ysbrydoliaeth i gannoedd o fyfyrwyr. Coffa da iawn amdano."
Y Gwyddoniadur
Roedd John Davies hefyd yn un o gyd-olygyddion Gwyddionadur Cymru. Un o'i gyd-olygyddion ar y prosiect hwnnw oedd Menna Baines:
"Mi fyddai'n edmygu'r dyn am byth. Y ffordd yr oedd o'n medru cwmpasu pethau. Yn y byd academaidd y dyddiau yma mae pobl yn tueddu i astudio meysydd cyfyng.
"Roedd John yn enghraifft o rywyn oedd yn gallu cymryd golwg lydan ar bethau, a mae darllen 'Hanes Cymru', fel 'tasa'r Sais yn ei dd'eud, yn good read. Roedd o'n dod 芒r elfen honno gyda fo hefyd i'r Gwyddoniadur."
Y Darlledwr
Bu John Davies yn llais a wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau wrth ddadansoddi arwyddoc芒d hanesyddol datblygiadau'r Gymru fodern.
Cyflwynydd 'Creu'r Gymru Fodern' oedd y newyddiadurwr Huw Edwards. Bu'n cydweithio yn agos gyda'r hanesydd yn ystod sawl darllediad arall hefyd:
"Yr oedd John yn ddyn o allu anghyffredin, yn fynydd o wybodaeth am ystod eang iawn o bynciau.
"Fel hanesydd poblogaidd roedd ganddo'r gallu arbennig i gyfleu neges mewn ffordd fywiog a gafaelgar - yn y ddwy iaith - ac fe brofwyd hynny yn ddiamheuol gan ei gyfrol wych a chynhwysfawr, Hanes Cymru.
"Roedd yn gymeriad lliwgar ac yn gwmni difyr".
Cof Cenedl
Cafodd sawl teyrnged ei rhoi i'r hanesydd ar wefan Twitter a thrwy gyfrwng e-byst i Cymru Fyw:
Julian Lewis Jones (actor): "Trist iawn clywed am farwolaeth Dr. John Davies."
Yr Athro Laura McAllister (academydd): "Newyddion trist iawn am John Davies - mae Cymru wedi colli hanesydd arbennig."
Geraint Brython-Edwards (cyfreithiwr a blogiwr): "Trueni clywed am farwolaeth John Davies. Cododd ymwybyddiaeth o gyfoeth ein hanes, a thrwy hynny gyfrannu at adfer ein hurddas fel gwlad."
Ffion Dafis (actor): "Nos da John Davies."
Simon Brooks (academydd): "Mae'n flin gen i glywed am farw John Davies, hanesydd cyfysgwydd 芒 Gwyn Alf Wiliams a Saunders Lewis yn y traddodiad cenedlaetholgar Cymreig."
Angharad Mair (cyflwynydd): "Yn fraint aruthrol cael cyflwyno'r teyrngedau ar @henoS4C i John Davies a gyfranodd gymaint. Diwrnod trist. Pob cydymdeimlad a'r teulu."
Rhys Taylor (cerddor): "Does dim llawer o bobol gallen i wrando arno'n siarad drw'r dydd, ond roedd John Davies yn un ohonynt! Colled mawr!"
Non Tudur (newyddiadurwr): "Enfys lachar yn yr awyr ar 么l cawod drom o gesair, a baner Cymru wleb yn cyhwfan oddi tani. Yn weddus rywsut heddiw."
Andrew Teilo (actor): "Cymru wedi colli un o'i phencampwyr penna' heddi'. Go brin y cawn ni wladgarwr mor wybodus, huawdl ac annwyl eto. Diolch amdano"
Rheinallt ap Gwynedd (cerddor): "Braint a phleser oedd byw yn Neuadd Pantycelyn pan ro'dd John Bwlchllan yn warden yno. Dyn doeth, doniol a diymhongar. Colled aruthrol."
"Mae John wedi ein arwain mewn ambell ffordd. Ei frwdfrydedd tuag at ein cefndir fel cenedl, ei gariad at ein iaith, ac hefyd ei fod wedi bod wastad yn barod i weithredu dros ei Gymreigrwydd. Y cof gorau y gallwn roddi iddo ydi, gweithredu yn y modd y weithredodd e." Y Parch Elfed Jones, Penarth
"Colled enfawr i'r genedl Colli Cymro mawr. Diolch John am dy waith dros yr Iaith a'n Gwlad." Alun Thomas Casnewydd
"Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth ein cyfaill a'n cyn-gydweithiwr dysgedig Dr John Davies. Ac yntau yn hanesydd, addysgwr a darlledwr carismataidd a phoblogaidd, roedd ynddo'r gallu arobryn i danio chwilfrydedd, goleuo a rhyfeddu ystod eang ac amrywiol o gynulleidfaoedd.
"Yn fwyaf arbennig, yn ei gyhoeddiadau 'Hanes Cymru' a 'History of Wales', fe ail-gyflwynodd y genedl i'w hanes hi ei hun, a thrwy wneud, dadlennodd iddi ddealltwriaeth ddyfnach o'i hanian a'i hunaniaeth. Mae ar Gymru ddyled fawr iddo felly, ac yn sgil ei farwolaeth, rydym ar ein colled fel gwlad. Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i'w deulu a'i fynych gyfeillion." Prifysgol Abertawe
"Atgofion o'r pleser o'i gynhrchu fel cadeirydd y gyfres Fel Na Mae; roedd ei wybodaeth rhyfeddol o eang yn synnu pawb. Llawn cystal a Stephen Fry ar QI ond John heb gymorth cardiau a nodiadau na ymchwilwyr i chwilio ar ei ran." Wyn Thomas, Gorseinon